Ar gyfer pwy y mae'r rhaglen hon?
Mae'r rhaglen hon i blant a phobl ifanc sy'n barod i fanteisio ar gymorth dwys wedi'i deilwra.
Beth mae'r rhaglen yn ei chynnwys?
Caiff ymyriadau amserol eu cyflawni ar “adeg addysgadwy” gan ddau o Weithwyr ymroddedig St Giles ym maes Ymyrryd ac Atal yn Gynnar ledled Caerdydd ac Abertawe pan fydd person ifanc yn fwyaf tebygol o fanteisio ar gymorth dwys wedi'i deilwra.
Ceir hefyd gyfleoedd i gefnogi teuluoedd pobl ifanc y nodwyd eu bod mewn perygl o gael eu denu at droseddu, lle bo hynny'n briodol.
Mae natur yr ymyriadau'n amrywion yn ôl anghenion dynodedig y cleient. Gall ymyriadau fod yn seiliedig ar weithgareddau, cymorth i fynd i apwyntiadau, a gwaith penodol un i un sy'n annog pobl ifanc i ystyried dewisiadau a chanlyniadau, a gwneud newidiadau cadarnhaol.