Jump to content

Partneriaeth atal trais yn annog pobl yn y de i yfed llai a mwynhau eu hunain yn fwy dros benwythnos Gŵyl y Banc

Arddangosfeydd delwedd Silent Solution 999
Cael eich clywed

Mae Uned Atal Trais Cymru yn annog pobl i yfed llai a mwynhau eu hunain yn fwy y penwythnos hwn.

Rhwng 8 a 10 Mai, cofnododd Heddlu De Cymru 375 o achosion o drais yn erbyn person, cynnydd o 25% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Ar y penwythnos, gosodwyd mwy o alwadau i’r heddlu na chyfnodau prysur yn draddodiadol, fel Calan Gaeaf neu Nos Galan.

Cofnododd Heddlu Gwent 315 o ddigwyddiadau o drais yn erbyn person, cynnydd o 34% o’i gymharu â phenwythnos Gŵyl Banc Cynnar y flwyddyn flaenorol. Derbyniodd Gwent 6% yn fwy o alwadau dros benwythnos Diwrnod VE, o’i gymharu â Gŵyl Banc y Pasg.

Yn ôl data diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru o'i arolwg 'Sut wyt ti?', mae pobl yn yfed mwy yn ystod y cyfyngiadau presennol. O'r ymatebion mwyaf diweddar i'r arolwg (4-10 Mai), dywed 14% o'r bobl sy'n yfed alcohol eu bod yn yfed mwy na'r wythnos flaenorol, a thua dechrau'r cyfyngiadau symud roedd y ffigur hwn yn sylweddol uwch ar 25% (13-19 Ebrill).

Dywedodd Jon Drake, Cyfarwyddwr Uned Atal Trais Cymru: "Mae tystiolaeth gan ein partneriaid yn awgrymu bod pobl yn yfed mwy, a gall alcohol waethygu sefyllfaoedd a all droi'n dreisgar.

"Ni chredwn fod unrhyw lefel o drais yn ein cymunedau yn dderbyniol, ac mae hyn yn arbennig o bwysig nawr, pan fo'r gwasanaeth iechyd eisoes dan bwysau aruthrol o ganlyniad i'r coronafeirws.

"Os oes angen help arnoch, bydd yr heddlu yn ymateb, ac mae'r ysbytai yn dal i fod ar agor, ond hoffwn annog pawb i ystyried yfed llai dros ŵyl y banc. Byddwch yn mwynhau'r penwythnos hir yn fwy a byddwch yn aros yn ddiogel, ac o bosibl yn diogelu'r gwasanaeth iechyd hefyd."

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Arfon Jones: "Rwy'n bendant yn cefnogi'r alwad i bobl yfed yn synhwyrol dros benwythnos gŵyl y banc, oherwydd mae alcohol yn gallu sbarduno trais, fel rydym ni i gyd yn ei wybod gwaetha'r modd.

"Ble bynnag y ceir achosion o drais, ceir dioddefwyr, ac mae'r bobl hynny sy'n byw gyda phartneriaid treisgar yn wynebu risg benodol.

"Mae'r gwaith o drechu trais domestig yn flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun yr Heddlu a Throseddu, ac er bod y sefyllfa bresennol yn un nas gwelwyd o'r blaen, ni ellir esgusodi cam-drin domestig, ni waeth sut mae'n digwydd.

"Mae'r cyfyngiadau symud yn golygu bod yn rhaid i'r bobl hynny sy'n wynebu risg dreulio mwy o amser yng nghwmni'r sawl sy'n eu cam-drin, ac maent yn wynebu hyd yn oed fwy o risg o drais a rheolaeth drwy orfodaeth, sy'n waeth os yw alcohol yn sbarduno ymddygiad o'r fath.

"Hoffwn i sicrhau pawb sy'n poeni am y risg maent yn ei hwynebu fod yr heddlu a'r holl wasanaethau cymorth gwych sy'n bodoli i'w helpu yn barod i weithredu.

"Dylai pawb sy'n poeni am y risg o niwed i'w hunain a'u plant gael cymorth a chefnogaeth yn syth."

Dywedodd Carl Foulkes, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn deall y pwysau mae'r sefyllfa bresennol yn eu rhoi ar bawb, a bod pobl am ymlacio a mwynhau Gŵyl y Banc.

Gobeithio y bydd pawb yn cael penwythnos braf, ond rydym yn annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol a pheidio ag yfed gormod.

Nid yw trais o unrhyw fath yn dderbyniol. Bydd fy swyddogion, a fydd i'w gweld ar hyd a lled y gogledd dros y penwythnos, yn ymdrin ag unrhyw achosion o drais yn llym, p'un a oes alcohol yn gysylltiedig ai peidio."

Dywedodd Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Yn aml, mae cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n cael eu trin mewn adrannau damweiniau ac achosion brys dros benwythnosau Gŵyl y Banc am broblemau'n gysylltiedig ag alcohol.

"Nawr, yn fwy nag erioed, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod gwasanaethau gwerthfawr ysbytai ar gael i'r bobl hynny sydd wir eu hangen. Os byddwch mewn trafferth, bydd y gwasanaethau brys yno i'ch helpu, ond drwy yfed llai dros benwythnos Gŵyl y Banc gellir helpu i gefnogi ein gwasanaethau brys. Bydd yn lleihau'r risg o niweidio chi'ch hun neu eraill ac, i'r rhan fwyaf o bobl, bydd yn golygu eu bod yn cael Gŵyl Banc brafiach o lawer."

Dywedodd Sara Kirkpatrick, Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru: “Ni ellir byth esgusodi na chyfiawnhau trais a chamdriniaeth, ac nid yw'r defnydd o alcohol yn eithriad. Rhaid inni fod yn glir nad yw alcohol yn achosi camdriniaeth, ond gall waethygu sefyllfaoedd lle mae achosion o gam-drin eisoes. Wrth i'r cyfyngiadau symud barhau am ŵyl banc arall, rydym yn poeni am fenywod a phlant ledled y wlad sy'n byw ar aelwyd lle mae camdriniaeth, heb fod cynifer o ffyrdd o fod yn ddiogel, o dan ganllawiau COVID-19. Er bod y Llywodraeth yn gofyn i bawb aros gartref, ni ddisgwylir ichi wneud hynny os ydych yn wynebu risg o niwed. Mewn argyfwng, gallwch ffonio 999 o hyd. Yn bwysig ddigon, mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn ôl yr arfer. Gall unrhyw un gysylltu â'r llinell gymorth bob awr o'r dydd am gymorth a chyngor yn Gymraeg a Saesneg, yn ogystal â llawer o ieithoedd eraill. Os nad oes modd ffonio, mae gwasanaeth gwe-sgwrs, neges destun ac e-bost ar gael hefyd. Os bydd unigolion yn poeni am eu hymddygiad a'u potensial i niweidio rhywun, nid oes esgus i gam-drin, ac mae cymorth ar gael drwy linell gymorth Respect."

Ble i gael help

Mae cymorth ar gael o hyd i bobl sy'n cael eu cam-drin neu'n dioddef trais ar yr adeg hon. Os bydd rhywun wedi'i anafu ac angen sylw meddygol, gall ei gael o hyd a dylai gael help. Caiff pobl sy'n cael eu cam-drin neu sy'n dioddef trais adael y cartref er mwyn dianc rhag y sawl sy'n eu cam-drin neu ofyn am help.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn:

Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael bob awr o'r dydd yn Gymraeg a Saesneg, ac mae ar gyfer unrhyw un sydd wedi profi cam-drin domestig, trais rhywiol a/neu drais yn erbyn menywod, neu sy'n poeni am ffrind neu berthynas sy'n profi unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth:
Ffoniwch0808 80 10 800
Tecstiwch: 078600 77333
Gwe-sgwrs: bywhebofn.llyw.cymru Rhagor o Wybodaeth:https://llyw.cymru/byw-heb-ofn

Llinell Ffôn Respect

Mae Llinell Ffôn Respect yn cynnig help i gyflawnwyr cam-drin domestig sydd am newid. Mae'r llinell ffôn ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Ffoniwch 0808 8024040