Rôl gwerthuso wrth atal trais
Mae llawer o agweddau ar atal trais nad ydynt yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd, ac mae hyn yn ei gwneud yn anodd pennu beth sy'n gweithio orau. Drwy werthuso, gall darparwyr gwasanaethau asesu gwerth, ansawdd ac effaith gwasanaeth, rhaglen neu ymyriad, a phenderfynu a yw'n cael yr effaith fwriadedig.
Mae gwerthuso yn elfen allweddol o ddarparu dull gweithredu iechyd y cyhoedd o atal trais. Wrth i sefydliadau ddatblygu a darparu ymyriadau â'r nod o atal trais neu fynd i'r afael â'r ffactorau risg cysylltiedig, mae'n bwysig datblygu sylfaen dystiolaeth ar gyfer y rhaglen honno cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch ei huwchraddio neu ei darparu mewn meysydd eraill.
Mae Uned Atal Trais Cymru yn ymrwymedig i ymgorffori elfen o werthuso yn y gwasanaethau a'r prosiectau rydym yn eu comisiynu a'u datblygu. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- Cefnogi ein partneriaid a darparwyr gwasanaethau a gomisiynwyd i ddatblygu a darparu eu gwerthusiadau eu hunain;
- Galw ar arbenigedd tîm Iechyd y Cyhoedd yr uned i gynnal ymyriadau yn fewnol;
- Buddsoddi mewn darparwyr allanol i gynnal gwerthusiadau annibynnol.
Cefnogi ein partneriaid i ddatblygu a darparu gwerthusiadau
Rydym wedi datblygu pecyn adnoddau gwerthuso ar y cyd â Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Prifysgol John Moores Lerpwl, sy'n cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i alluogi darparwyr gwasanaethau i werthuso rhaglenni ac ymyriadau sydd wedi'u targedu at atal trais.
Mae'r pecyn adnoddau wedi'i anelu at ddarparwyr gwasanaethau ymyrryd yng Nghymru a thu hwnt, er mwyn cefnogi ein partneriaid i werthuso eu gwasanaethau'n gywir er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl.
Mae'r pecyn adnoddau yn cynnwys:
Mae'r pecyn adnoddau a'r adnoddau ychwanegol ar gael yma:
Pecyn Adnoddau Gwerthuso Atal Trais
Rhestr Wirio Gwerthuso Atal Trais
Ffeithlun Gwerthuso Atal Trais
Gwerthuso Allanol
Comisiynwyd Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Prifysgol John Moores Lerpwl i gynnal gwerthusiad annibynnol o Uned Atal Trais Cymru.
Cynhaliwyd gwerthusiad o'r flwyddyn gyntaf (2019-20) i gofnodi ein cynnydd o ran sefydlu'r Uned Atal Trais yng Nghymru, gan ystyried y gwaith o ddatblygu dull iechyd y cyhoedd o atal trais a'i roi ar waith.
Gallwch ddarllen yr adroddiadau yma:
Gwerthusiad o Uned Atal Trais Cymru: Canfyddiadau Blwyddyn 1 (2019/20) Adroddiad llawn
Gwerthusiad o Uned Atal Trais Cymru: Canfyddiadau Blwyddyn 1 (2019/20) Crynodeb Gweithredol
Rydym bellach wedi comisiynu Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Prifysgol John Moores Lerpwl i gynnal gwerthusiad o ail flwyddyn yr uned. Bydd hyn yn cynnwys gwerthusiad o effaith a phrosesau er mwyn asesu'r canlynol:
- y dull system gyfan o atal trais, gan gynnwys datblygu rhaglenni a'u rhoi ar waith, a chynnydd o ran cyflawni'r canlyniadau wedi'u targedu a amlinellir yn y model rhesymeg;
- datblygu cudd-wybodaeth am drais at ddibenion atal a'i rhoi ar waith (monitro trais yn rheolaidd).
Bydd y gwerthusiad yn arfer dull gweithredu cymysg, gan gynnwys cyfweliadau ac arolygon sy'n ystyried y system gyfan, mapio cysyniadau a dadansoddi rhwydweithiau.
Cymru Heb Drais - Fframwaith ar y Cyd ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc PDF
Gan Uned Atal Trais Cymru a Gydweithredfa Cyfoedion Cymru