Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth hwn?
Pob plentyn a pherson ifanc yng Nghaerdydd a gaiff ei arestio am drosedd yn ymwneud â chyllyll.
Beth mae'r gwasanaeth yn ei gynnwys?
Mae'r prosiect troseddau cyllyll yn cyflogi cydgysylltydd a gweithwyr llawrydd priodol i roi ymyriadau carlam ac wedi'u teilwra i blant a phobl ifanc, gan weithio gyda Gweithiwr Ieuenctid cymwys.
Caiff ei gyflwyno mewn lleoliadau cymunedol rhwng 8am ac 8pm, saith diwrnod yr wythnos yn dibynnu ar anghenion y plentyn/teulu.
Mae'r Gweithwyr Ieuenctid yn gweithio gyda chyfranogwyr ar sail un i un ac yn cefnogi tîm atal y Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid i gyflwyno sesiynau mewn ysgolion, lle mae troseddau cyllyll wedi cael eu nodi a lle gwnaed cais am gymorth.
Bydd plant a phobl ifanc a gaiff atgyfeiriad i'r gwasanaeth yn cael asesiad a fydd yn nodi anghenion ac yn creu sail i gynllun gweithredu y bydd y ddwy ochr yn cytuno arno i ystyried y risgiau diogelwch a'r cyfreithiau ynghylch cario cyllyll ac arfau llafnog eraill.