Pwy ydym ni
Sefydlwyd Uned Atal Trais Cymru yn sgil cyllid a gafwyd gan y Swyddfa Gartref yn 2019, ac mae'n bartneriaeth o weithwyr proffesiynol penodedig. Mae'r tîm craidd yn cynnwys aelodau o heddluoedd, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Adran Mewnfudo'r Swyddfa Gartref a'r sector gwirfoddol.
Rydym yn mabwysiadu dull gweithredu iechyd y cyhoedd i atal trais. Golyga hyn ein bod yn ceisio deall achosion trais yn seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn defnyddio'r dystiolaeth hon i ddatblygu ymyriadau sy'n canolbwyntio ar achosion sylfaenol trais. Rydym yn gwerthuso'r ymyriadau hyn yn gywir cyn datblygu pob un er mwyn helpu mwy o bobl a chymunedau ledled Cymru. Drwy'r dull gweithredu hwn, rydym yn ceisio datblygu ymateb system gyfan i atal trais.
Pwy sy'n cymryd rhan
Cwrdd â’r Tîm
Daniel Jones, Arweinydd Uned Atal Trais
Ymunodd Daniel â’r Uned Atal Trais o Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru lle bu’n Bennaeth Partneriaethau.
Lara Snowdon, Arweinydd y Rhaglen Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Lara sy'n arwain tîm iechyd y cyhoedd yn yr Uned Atal Trais. Yn y rôl hon, mae'n arwain ein gwaith strategol o ddatblygu dull iechyd y cyhoedd o atal trais. Mae'n rheoli tîm amlddisgyblaethol o ymchwilwyr, dadansoddwyr ac arbenigwyr cyfathrebu ym maes iechyd y cyhoedd sy'n rhoi arbenigedd plismona ac iechyd y cyhoedd a chymorth technegol i'n partneriaid amrywiol.
Emma Barton, Rheolwr Canlyniadau Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyn ymuno â'r Uned Atal Trais, arweiniodd Emma dîm ymchwil i ddarparu nifer o brosiectau ymchwil a gwerthuso.
Dr Alex Walker, Swyddog Canlyniadau Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Alex yw arweinydd gwerthuso'r Uned Atal Trais, ac mae hefyd wedi gwneud gwaith ymchwil gwerthfawr, gan gynnwys ymchwil i brofiadau pobl a fu'n bresennol yn ystod achos o drais domestig yn ystod pandemig COVID-19.
Bryony Parry, Arweinydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Bryony yn arwain yr holl weithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu ar gyfer yr Uned Atal Trais, gan gynnwys digwyddiadau, ymgyrchoedd ac ymgyngoriadau. Mae Bryony hefyd yn arwain gwaith cydgynhyrchu, gan weithio'n agos gyda Peer Action Collective Cymru i sicrhau bod gwaith yr Uned yn cael ei lywio gan safbwyntiau a barn plant a phobl ifanc.
Anthony Moyle, Arweinydd ar gyfer yr Heddlu, Heddlu De Cymru
Cyn ymuno â'r Uned Atal Trais, Anthony oedd Prif Arolygydd Uned Reoli Sylfaenol Morgannwg Ganol, gan weithio ym maes Plismona yn y Gymdogaeth a Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau lle bu roedd ganddo rôl â chyfrifoldeb deuol am oruchwylio'r ddwy adran. Fel yr Arweinydd ar gyfer yr Heddlu yn yr Uned Atal Trais, bydd yn cefnogi ardaloedd tair uned reoli Heddlu De Cymru wrth fabwysiadu arferion gwaith cydlynol gyda rhanddeiliaid er mwyn lleihau lefelau trais a niwed ledled Cymru.
Shauna Pike, Swyddog Canlyniadau/Ymchwilydd Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Shauna yn ymchwilydd yn Uned Atal Trais Cymru. Mae'n gyfrifol am greu adroddiadau niferus a ysgogir gan ddata ar gyfer De Cymru ac yn fwy lleol, yn ogystal â chynorthwyo gyda phrosiectau ymchwil.
Muqaddasa Abdul Wahid, Swyddog Cymorth Cyfathrebu, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Muqaddasa yn cefnogi'r gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu yn yr Uned Atal Trais. Mae'n gyfrifol am reoli gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Uned Atal Trais, gan gynnwys creu cynnwys a dadansoddi perfformiad cynnwys ar sianeli amrywiol, er mwyn sicrhau bod yr holl weithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu yn cyrraedd y gynulleidfa darged ac yn ennyn ei diddordeb.
Molly Hardy, Swyddog Cymorth Gweinyddol, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru
Mae Molly yn ymuno â ni o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru i roi cymorth gweinyddol i'r Uned Atal Trais, meithrin cydberthnasau â'n partneriaid a'n darparwyr, a helpu i oruchwylio ein hymyriadau a ariennir.
Ditectif Arolygydd Claire Morgan, Heddlu De Cymru
Yn goruchwylio elfen weithredol cynllun peilot plismona ardaloedd problemus y Swyddfa Gartref ar hyn o bryd.