Jump to content

Yr hyn rydym yn ei wneud

Yn rhy aml, ystyrir bod trais yn rhan anochel o fywyd; digwyddiadau yr ymatebir iddynt yn hytrach na'u hatal. Mae dull iechyd y cyhoedd yn herio'r cysyniad hwn ac yn dangos bod modd rhagweld trais a'i atal, fel unrhyw broblem iechyd arall.

Mae comisiynu ymyriadau, cyflawni gwaith ymchwil, dadansoddi data, cynnal gwerthusiadau, arwain ymgyrchoedd a datblygu ymarfer plismona oll yn feysydd allweddol o waith Uned AtalTrais Cymru. Felly hefyd ei hymrwymiad i ddod â phartneriaid at ei gilydd er mwyn sicrhau bod gennym ddull cydgysylltiedig o atal trais, gan hyrwyddo atebion i drais sydd wedi’u cydgynllunio, a hynny rhwng sefydliadau a gyda chymunedau.

Rhaglenni

Rydym yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau yng Nghymru i gyflwyno rhaglenni seiliedig ar dystiolaeth i atal trais.

Prosiectau

Rydym yn cynnal prosiectau ymchwil a gwerthuso er mwyn helpu partneriaid a darparwyr gwasanaethau yng Nghymru i gyflwyno rhaglenni ac ymyriadau sy'n gweithio i Gymru.

Ymateb

Mae ein tîm amlasiantaethol mewn sefyllfa unigryw i rannu gwybodaeth, gallu ac adnoddau mewn ymateb i argyfyngau.

Rhaglenni

Rydym yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau yng Nghymru i gyflwyno rhaglenni seiliedig ar dystiolaeth i atal trais.

Rhaglenni diweddaraf

Prosiectau

Rydym yn cynnal prosiectau ymchwil a gwerthuso er mwyn helpu partneriaid a darparwyr gwasanaethau yng Nghymru i gyflwyno rhaglenni ac ymyriadau sy'n gweithio i Gymru.

Prosiectau Diweddaraf

Ymateb

Mae ein tîm amlasiantaethol mewn sefyllfa unigryw i rannu gwybodaeth, gallu ac adnoddau mewn ymateb i argyfyngau. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall a lliniaru effaith yr ymateb i COVID-19 ar drais.