Jump to content

Cyfreithiol

Defnydd a Ganiateir

Caiff ymwelwyr ag Uned Atal Trais Cymru (y wefan hon) ganiatâd i weld deunyddiau sydd wedi'u cyhoeddi (cynnwys) yn amodol ar y telerau hyn. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn cytuno i fod yn rhwym wrth y telerau o ran ei defnydd.

Er y gall cynnwys gael ei weld, ei lawrlwytho a'i ddefnyddio at ddibenion personol ac anfasnachol (e.e. ymchwil breifat, astudio neu ddefnydd mewnol); ni chaiff ymwelwyr atgynhyrchu nac ailgyhoeddi unrhyw ddeunydd o'r wefan hon heb ganiatâd perchennog y wefan / hawlfraint.

Mae'r delweddau, y logos a'r deunydd graffig a ddefnyddir ar y wefan hon yn eiddo i ni a/neu drydydd partïon. Ni ellir eu defnyddio heb gael caniatâd perchennog yr hawlfraint.

Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol sy'n gysylltiedig â'r wefan hon yn eiddo i Uned Atal Trais Cymru a, lle y bo'n gymwys, drydydd partïon.

Atal Feirysau

Rydym yn gwneud ein gorau glas i archwilio a phrofi deunydd am feirysau. Fodd bynnag, dylech redeg rhaglen atal feirysau ar unrhyw ddeunydd a gaiff ei lawrlwytho o'r we. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amharu na difrod i'ch data na'ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd o'r wefan hon.

Ymwadiad

Cymerir gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Serch hynny, darperir cynnwys er gwybodaeth gyffredinol yn unig, ac rydych yn ei ddefnyddio ar eich menter eich hun. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw ddifrod na cholled sy'n deillio o unrhyw weithred na hepgoriad yn sgil defnyddio gwybodaeth o'r wefan hon.

Gwefannau Allanol

Nid yw Uned Atal Trais Cymru yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau y ceir dolenni iddynt. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am gynnwys gwefannau o'r fath, na chanlyniadau dilyn unrhyw gyngor arnynt.

Ni ddylai'r ffaith eu bod wedi'u rhestru gael ei ystyried yn gymeradwyaeth o unrhyw fath.

Ni allwn addo y bydd y dolenni hyn yn gweithio o hyd ac ni allwn reoli argaeledd y tudalennau y ceir dolenni iddynt na newid o ran cyfeiriad gwefan.

Mae Uned Atal Trais Cymru yn cadw'r hawl i wrthod neu ddileu dolenni i unrhyw wefan.