Jump to content

Fearless

Ar gyfer pwy y mae'r rhaglen hon?

Bydd gweithwyr achos Fearless yn cyflwyno sesiynau gweithdy i bobl ifanc yng Nghaerdydd ac Abertawe mewn lleoliadau addysg a chymunedol.

Mae'r tîm hefyd yn cyflwyno sesiynau ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc.

Beth mae'r rhaglen yn ei chynnwys?

Mae'r tîm Fearless yn canolbwyntio ar feithrin partneriaethau ag asiantaethau allweddol yn lleol, gan nodi ac ymateb i gyfleoedd i gyflwyno sesiynau Fearless.

Mae gweithwyr achos ymroddedig Fearless yn cyflwyno sesiynau gweithdy i bobl ifanc mewn ardaloedd lle ceir y nifer fwyaf o achosion o drais difrifol yng Nghaerdydd ac Abertawe. Bydd y sesiynau rhyngweithiol hyn yn trafod materion allweddol, megis camfanteisio'n droseddol ar blant, smyglo cyffuriau a throseddau'n ymwneud â chyllyll.

Mae'r tîm hefyd yn cyflwyno sesiynau hyfforddi i weithwyr proffesiynol i'w paratoi'n well i adnabod arwyddion neu ddatgeliadau gan y bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw ac ymateb iddynt.