Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth hwn?
Pobl ifanc rhwng 11 a 30 oed sydd wedi cael eu hatgyfeirio gan Dîm Atal Trais y GIG yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Beth mae'r gwasanath yn ei gynnwys?
Mae Gweithredu dros Blant yn darparu gwasanaeth cymorth penodol i'r rhai rhwng 11 a 30 oed.
Ymatebir i atgyfeiriadau o fewn amserlen benodol, er mwyn ystyried a yw'r atgyfeiriad yn briodol ar gyfer Side Step. Cynhelir cysylltiadau agos â phartneriaid trydydd sector/statudol eraill mewn amgylchiadau pan na fydd atgyfeiriadau yn bodloni meini prawf Side Step ond sy'n gofyn am lefel o ymyrraeth a chymorth er mwyn sicrhau bod pob person ifanc yn cael y gwasanaeth mwyaf priodol sy'n addas i'w anghenion.
Gwasanaeth ymyrryd yn gynnar yw Side Step ar gyfer pobl ifanc 11-18 sy'n gysylltiedig â throseddau cyfundrefnol difrifol. Mae'n darparu cymorth dwys 1:1 wedi'i dargedu, cymorth i deuluoedd, mentora gan gyfoedion, gwaith grŵp i ddargyfeirio pobl ifanc oddi wrth camfanteisio troseddol drwy droseddau cyfundrefnol difrifol.