Ar gyfer pwy y mae'r rhaglen hon?
Mae'r rhaglen hon i blant (rhwng 10 ac 16 oed) a rhieni lle nodwyd bod trais rhwng y glasoed a rhiant/gofalwr. Mae gweithwyr proffesiynol yn ymwneud â'r teulu ac mae'r ddwy ochr am wneud newidiadau cadarnhaol.
Beth mae'r rhaglen yn ei chynnwys?
Caiff darpar gyfranogwyr eu cyfeirio at Dîm Brysbennu Media Academy Cardiff gan weithiwr proffesiynol.
Bydd y rhaglen, sy'n para pedair wythnos, yn dechrau ar ôl gweithdy cychwynnol undydd i asesu anghenion y teulu. Caiff y plentyn a'i riant/rhieni neu ofalwr/gofalwyr eu rhannu yn grwpiau gwahanol. Bydd y tîm Media Academy Cardiff yn gweithio gyda'r grwpiau hyn ar wahân cyn dod â nhw nôl at ei gilydd i ddatblygu cynllun gweithredu er mwyn helpu i wella cyfathrebu gartref a lleihau gwrthdaro.
Bydd sesiynau'r Rhaglen yn canolbwyntio ar gyfathrebu, llythrennedd emosiynol, rhianta cadarnhaol, gweithredu gwybyddol, gwrando gweithredol ac ysgrifennu creadigol. Ymhlith y gweithgareddau a wneir mae defnyddio sêr datblygiad personol, cynadledda wyneb yn wyneb ac ysgrifennu llythyrau at ei gilydd er mwyn datblygu sgiliau y gellir eu trosglwyddo i'r cartref, sy'n seiliedig ar theori.
Bydd y rhaglen yn eich cyfeirio at wasanaethau arbenigol os nodir anghenion nas diwellir.