Ar gyfer pwy y mae'r rhaglen hon?
Unrhyw unigolyn a gaiff ei dderbyn i'r ysbyty ag anafiadau o ganlyniad i drais.
Beth mae'r rhaglen yn ei chynnwys?
Sefydlwyd Tîm Atal Trais y GIG ym mis Hydref 2019. Caiff ei ariannu gan Uned Atal Trais Cymru ac mae bellach yn gweithredu mewn dwy adran achosion brys yn Ne Cymru. Mae pob tîm yn cynnwys dwy nyrs a gweithiwr achosion cymunedol.
Rôl y Tîm Atal Trais yw darparu cyngor, cymorth ac arweiniad i gleifion sydd wedi dioddef trais, gyda'r nod o ymgysylltu â'r bobl hynny sydd wedi'u hanafu pan fyddant yn yr ysbyty (ar adeg argyfwng), a'u helpu i droi cefn ar drais drwy eu hannog i fanteisio ar gymorth, ymyriadau a gwasanaethau ehangach.