Jump to content

Tîm Atal Trais y GIG

Ar gyfer pwy y mae'r rhaglen hon?

Unrhyw unigolyn a gaiff ei dderbyn i'r ysbyty ag anafiadau o ganlyniad i drais.

Beth mae'r rhaglen yn ei chynnwys?

Mae Tîm Atal Trais y GIG yn cynnwys dau aelod o staff, nyrs gymwysedig ac Eiriolwr a secondiwyd i'r Tîm Atal Trais, a oruchwylir gan y Pennaeth Diogelu. Mae'r tîm wedi'i leoli yn Adran Achosion Brys, Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar ddarparu cyngor, cymorth a chanllawiau i gleifion o bob oedran sydd wedi dioddef trais gydag anaf, gyda'r nod o ymgysylltu â'r rhai a gafodd eu hanafu, pan fyddant yn yr ysbyty er mwyn helpu i dorri'r cylch trais ar adeg yr argyfwng.