Jump to content

BLOG FIDEO: Yasmin Khan ar Atal Trais ar Sail Rhywedd

Blog fideo ysbrydoledig ar gyfer Uned Atal Trais Cymru gan Yasmin Khan, Cynghorydd Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a Chyfarwyddwr Prosiect Halo fel rhan o'n Hymgyrch 16 Diwrnod o Weithredu.

Mae Yasmin yn trafod yr angen am wasanaethau hygyrch i bawb a phwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth er mwyn rhoi diwedd ar Drais ar sail Rhywedd.

Trawsgrifiad


Yasmin Khan ydw i a fi yw Cynghorydd Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Yn ystod fy amser yng Nghymru, rwyf wedi cyfarfod â llawer iawn o weithwyr proffesiynol ymroddedig, ymgyrchwyr a'r rhai y mae Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi effeithio'n uniongyrchol arnynt,

gan weithio gyda'r bobl sy'n atal, yn diogelu ac yn cefnogi'r rhai sydd mewn sefyllfaoedd sydd wedi peri niwed iddynt oherwydd camdriniaeth, a hynny heb unrhyw fai arnyn nhw.

Mae'n ddigon syml.

Pan fydd rhywun yn agored i niwed, mae cyflawnwyr.

Pan fydd gwendid, mae grym.

A phan fydd tawelwch, mae angen i bob un ohonom siarad yn uchel.

Heb os, un o'r agweddau ar fy rôl sy'n rhoi'r boddhad mwyaf i mi yw cyfarfod goroeswyr sy'n dangos dewrder ac yn fy ysbrydoli i wneud i bethau ddigwydd.

I wneud pethau'n wahanol.

Wrth wneud hynny, mae'n rhaid i ni sicrhau cydraddoldeb rhywedd. Mae angen ystyried menywod a merched o bob cefndir ledled Cymru mewn ymyriadau a rhaglenni o'r fath.

Yn benodol, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag anghydraddoldeb i bob grŵp amrywiol. Dylai dioddefwyr sydd wedi dioddef priodas dan orfod, camdriniaeth ar sail anrhydedd ac anffurfio organau cenhedlu benywod allu cael gafael ar wasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion.

Mae angen i ni hefyd gynnig gwasanaethau i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig a sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth hefyd fel y gallwn gydweithio i greu cymdeithas a fydd yn sefyll gyda'n gilydd yn erbyn y rhai sy'n achosi niwed.

Eleni, rwyf wedi myfyrio ar y cynnydd yn y galw am ein gwasanaethau arbenigol sydd wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu hamddiffyn a'u cefnogi a'u bod yn derbyn gofal.

Rwyf am dalu teyrnged i'r gwasanaethau hynny a'r unigolion hynny mewn gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi gweithio ar y rheng flaen gan beryglu eu bywydau eu hunain.

Felly gadewch i ni barhau â'r hyn rydym wedi'i ddechrau. Taith i sicrhau y gall menywod sy'n dioddef trais roi gwybod amdano neu geisio'r cymorth sydd ei angen arnynt.

Bydd angen mwy o fuddsoddiad, mwy o arweinyddiaeth a mwy o weithredu ledled Cymru, ac yn rhyngwladol wrth gwrs, i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod.

Mae hyn yn fy annog i sefyll gyda'n gilydd heddiw i roi diwedd ar Drais ar sail Rhywedd, ond ni allaf wneud hyn ar fy mhen fy hun.

Dim ond drwy weithio gyda'n gilydd i atal camdriniaeth a niwed a hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd y gallwn gyflawni'r nod o atal pob math o drais ledled Cymru.

Mae'n fraint gennyf weithio ochr yn ochr ag asiantaethau yng Nghymru sy'n cynnig cyfleoedd o'r fath.

Eleni yn fwy nag erioed, mae'n rhaid i ni barhau i weithio mewn partneriaeth a chymryd cyfrifoldeb personol i leisio barn a herio camdriniaeth ble bynnag y byddwn yn ei weld.

Oherwydd rwyf wir yn credu, os byddwn yn gwneud hyn, gallwn fyw mewn byd heb drais.