BLOG GWESTAI: Cymru heb Drais ar sail Rhywedd - Sara Kirkpatrick, Cymorth i Ferched Cymru
Heddiw yw'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod. Daeth y diwrnod i fodolaeth ymhell i ffwrdd o Gymru, gyda llofruddiaeth greulon tair o'r pedair chwaer Mirabal yn y Weriniaeth Ddominicaidd, yn 1960. Roedd y chwiorydd yn weithredwyr yn wyneb system ormesol ac felly mae'n addas bod y diwrnod pan fyddwn yn eu cofio hefyd yn nodi dechrau'r 16 o Ddiwrnodau o Actifiaeth.
Mae amgylchiadau byd-eang wedi golygu y bydd y ffyrdd rydym yn nodi 25 Tachwedd yn 2020 yn wahanol. Er na all ein gorymdeithiau, digwyddiadau goleuo cannwyll a gwasanaethau cofio arferol ddigwydd yn yr un ffordd, mae mor bwysig bod ffeministiaid ledled y byd yn cael diwrnod penodol o hyd i gofio, myfyrio ac ymateb.
Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn parhau i achosi difrod ledled y byd, ac eleni mae'r cyfraddau trais a cham-drin wedi bod mor uchel rydym yn aml wedi gweld pobl yn cyfeirio atynt fel y ‘pandemig cysgodol’ a oedd yn rhedeg ochr yn ochr â COVID-19.
Mae eleni wedi gweld ymdrech ddiflino i gael gwared ar COVID-19. Mae wedi fy nharo i mai dyma'r tro cyntaf yn fy mywyd rwyf wedi tystio ymrwymiad dynodedig ar raddfa mor fawr i ymateb ataliol. Yng Nghymru, rydym wedi ymgymryd â chyfrifoldeb ar y cyd i beidio ag aros tan bwynt argyfwng - lle y byddai ein gwasanaeth brys wedi'i orlethu - i weithredu. Rydym i gyd wedi chwarae ein rhan, p'un a yw hynny'n staff rheng flaen yn addasu ac yn aberthu er mwyn gofalu am y rhai sy'n sâl, mynd â pharseli bwyd i bobl sy'n agored i niwed, gwisgo masgiau i amddiffyn ein hanwyliaid, ac ati.
Mae'r ffocws, yn y wlad hon a ledled y byd, wedi bod ar fod o flaen y gad o ran y niwed mae COVID-19 yn ei achosi. Gallwn ddysgu llawer o'r agwedd hon pan fyddwn yn meddwl am roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ni ddylem fod yn aros nes bod trais a cham-drin yn ddigon difrifol i ymddangos yn y system cyfiawnder troseddol neu nes bod angen i oroeswyr gael eu cefnogi gan sefydliadau statudol cyn y byddwn ni fel cymdeithas yn eu hystyried yn bwysig, ac yn rhoi ein holl egni a'n hadnoddau yn y gwaith o fynd i'r afael â nhw.
Er mwyn rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, credaf fod yn rhaid i ni roi mwy o bwyslais ar fynd i'r afael â gwreiddiau'r broblem. Bydd trais a cham-drin bob amser yn ffynnu oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r ffaith bod anghydraddoldeb ar sail rhywedd a'r gormes ‘bob dydd’ mae menywod a merched yn eu hwynebu yn cael eu derbyn a'u goddef yn gyfforddus. Pan gaiff cam-drin megis chwibanu, jôcs rhywiol ac aflonyddu eu normaleiddio, eu gwrthod fel achosion ‘lefel isel’ a phan gaiff eu niwed ei ddiystyru, mae'n creu sefyllfa lle y gall cam-drin pellach dyfu - fel cymdeithas dylem i gyd gael ein cythruddo gan bob lefel ac unrhyw lefel o wahaniaethu.
Yr wythnos hon yn Cymorth i Ferched Cymru, gwnaethom lansio ‘Dim Ardal Lwyd’, sef ein hymgyrch fwyaf hyd yma i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Gwyddom er y bydd gweithleoedd ac amgylchiadau wedi newid i lawer o bobl eleni, mae aflonyddu rhywiol wedi parhau. Bydd gan lawer ohonom stori am brofiad o ymddygiad digroeso yn y gweithle ac i lawer o fenywod, gall y profiadau hyn groestorri ag achosion o hiliaeth, gwahaniaethu ar sail gallu a ffurfiau eraill ar wahaniaethu - gall hyn wneud y gweithle yn lle anghyfforddus, bygythiol neu beryglus hyd yn oed. Mae gan bob unigolyn yr hawl i deimlo'n ddiogel ac wedi'i gefnogi yn ei weithle. Byddem yn ddiolchgar petai unrhyw un yng Nghymru sydd wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn gallu cwblhau'r arolwg cliciwch yma.
Mae'r newid mewn amodau gwaith yn ystod y pandemig wedi golygu bod y cyfle i weithle fod yn lle cefnogol wedi newid i lawer o oroeswyr. Fodd bynnag, gall rheolwyr weithredu o hyd i sicrhau y caiff staff eu cefnogi. Mae ein Pecyn Cymorth ar gyfer Gwylwyr COVID-19 yn cynnwys adnoddau ar gyfer cyflogwyr, yn ogystal â chymdogion, ffrindiau a gwirfoddolwyr sy'n pryderu am rywun. I gael gafael ar y pecyn cliciwch yma.
Heddiw, wrth i ni alaru am y menywod a gafodd eu llofruddio eleni a threfnu i frwydo dros newid yn y flwyddyn sydd i ddod, rydym hefyd yn myfyrio ar y gwasanaethau arbenigol, gweithredwyr a ffeministiaid arbennig ledled y byd sy'n ceisio creu byd lle y gallwn i gyd fyw heb ofn. Rydym wedi gwneud llawer o ddatblygiadau ers y Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod cyntaf ond dim ond cael cipolwg ar y newyddion, sgrolio drwy Twitter neu wrando ar rywun yn yr archfarchnad sydd angen i mi ei wneud i wybod bod trais yn erbyn menywod yn rhan o'n bywydau bob dydd o hyd. Hyd yn oed pan fyddwn yn cyrraedd ein nod, pan fyddwn wedi rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod yn ein cymunedau ac yn gallu byw heb ofn, byddwn yn parhau i gynnau cannwyll a chofio bywyd pob menyw yr effeithiodd yr epidemig o drais hwn arni.
Diolch i Sara a Cymorth Ferched Cymru am gyfrannu at ein cyfres blogiau gwesteion fel rhan o'r 16 Diwrnod o Weithredu yn Erbyn Trais ar sail Rhyw.