Jump to content

Anhysbysrwydd fel ffactor hollbwysig i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd yng Nghymru

Delwedd yn arddangos logo Uned Atal Trais Cymru

Anhysbysrwydd fel ffactor hollbwysig i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd yng Nghymru

Fel rhan o'n hymgyrch 16 Diwrnod o Actifiaeth yn erbyn Trais ar Sail Rhywedd, rydym yn ffodus iawn o gael Ella Rabaiotti o elusen Taclo'r Tacle, a fydd yn ysgrifennu blog i ni am bwysigrwydd Fearless.org er mwyn addysgu a grymuso pobl ifanc i sicrhau bod gan bob merch lais yn erbyn trais a cham-drin rhywiol yng Nghymru.

Mae Elusen y DU, Taclo'r Tacle, yn rhoi cyfle i bobl drafod troseddau, gan gynnwys pob agwedd ar drais a cham-drin, yn gwbl ddienw. Lansiodd yr elusen wefan Fearless.org yn 2010 â'r nod o addysgu a grymuso pobl ifanc er mwyn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn ddiogel, heb ddatgelu eu hunaniaeth.

Drwy addo i alluogi pobl i aros yn ddienw, mae Taclo'r Tacle a Fearless yn eu galluogi i oresgyn rhwystrau wrth roi gwybod am drais ar sail rhywedd. Y rheswm dros hyn yw'r tawelwch y mae dioddefwyr trais a cham-drin, yn ogystal â'r sawl sy'n dyst iddynt, yn ei wynebu – ac mae'n waeth fyth i bobl ifanc. Bydd llai nag un allan o bob pum plentyn a pherson ifanc sy'n cael profiad o droseddau treisgar yn rhoi gwybod amdanynt i'r heddlu (SYG, 2014). Mae'r lefel hon o droseddau nad ydynt yn cael eu cofnodi yn seiliedig ar ddiffyg ymwybyddiaeth, ofni goblygiadau, beio eu hunain a goblygiadau negyddol gan yr heddlu – a chaiff ei chymhlethu ymhellach gan y cynnydd yn y nifer o achosion o niwed ar-lein (Beckett & Warrington, 2014, 2019).

At hynny, nid yw pobl ifanc am ymddangos fel pe baent yn cario clecs ac yn cael pobl i drwbl; ac felly nid ydynt hyd yn oed yn ystyried rhoi gwybod am droseddau yn aml. Mewn grwpiau ffocws a gynhaliwyd ynghylch troseddau'n ymwneud â chyllyll yn ddiweddar, ni wnaeth yr un person ifanc ddweud y byddai'n rhoi gwybod i'r heddlu am drosedd:

‘We talked about when the learners might call the police if they were the victim of crime or threatened with violence, but they could not see any situation when they would do so.’ (Nacro, 2020, p.7[Saesneg yn Unig]).

Mae'r diwylliant hwn o ‘osgoi cario clecs’ yn berthnasol i bob math o droseddau, gan gynnwys cyfoedion sy'n rhoi gwybod am niwed rhywiol. Dangosodd gwaith ymchwil i ysgolion fod cysondeb o ran y pryderon yn ymwneud â phobl ifanc sy'n ofni cario clecs neu gael eu labelu fel rhywun sy'n cael pobl i drwbl, a oedd yn arwain at hunanfoddhad wrth ymyrryd ar ran eraill i'r graddau y byddai'n well gan rai pobl ifanc fynd i drwbwl eu hunain yn hytrach na chael eu hystyried yn bobl oedd yn cario clecs (Allnock & Atkinson 2019, p.15).

Mae gwaith Fearless.orgyn helpu i herio'r diwylliant ymhlith pobl ifanc o beidio â chario clecs, ac yn mynd i'r afael â chyfyng-gyngor moesol o rannu gwybodaeth am droseddau. Mae Gweithwyr Allgymorth Fearless yn cynnal gweithdai i bobl ifanc a'r gweithwyr proffesiynol sy'n cydweithio â nhw ledled De Cymru. Mae'r gweithdai'n gyfle i bobl ifanc ofyn cwestiynau a rhannu eu pryderon, ac yn eu galluogi i ddiddymu unrhyw fythau a allai fod ganddynt am droseddau a throseddoldeb. Yn dilyn hyn, gall pobl ifanc wneud penderfyniadau a dewisiadau ar sail gwybodaeth ar ôl derbyn y wybodaeth newydd hon.

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â throseddau - gan gynnwys cam-fanteisio a thrais, maent yn annog pobl ifanc i fod yn rhan o'r datrysiad drwy roi llwybr amgen, diogel iddynt drafod sefyllfaoedd lle maent yn wynebu troseddau neu droseddoldeb.

Mae elusen Taclo'r Tacle yn poeni am effaith trais gangiau ar bobl ifanc ac mae llawer o'n hymdrechion yn Fearless wedi bod yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag achosion o gam-fanteisio ar bobl drwy droseddau ‘llinellau cyffuriau’. Er ein bod wedi canolbwyntio ar fechgyn fwyaf, fel y mae ein ffilm Running the Lines a gynhyrchwyd yng Nghymru'n ei ddangos, rydym yn gwybod bod merched yn cael eu cuddio mewn gangiau yn aml.

Fel rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd dros y flwyddyn nesaf, rydym yn bwriadu canolbwyntio ar leihau nifer y merched sy'n rhan o gangiau drwy godi ymwybyddiaeth o'r risgiau sy'n ymwneud â cham-fanteisio’n rhywiol a thrais, a sut y gall Fearless.org helpu. Ein cam cyntaf yw creu ffilm newydd i adrodd stori ‘Sophie’, fel rhan o'n stori Running the Lines. Rydym am i bob merch gael llais yn erbyn trais a cham-drin rhywiol yng Nghymru. Er mwyn cyflawni ein hamcanion, bydd yn hollbwysig codi ymwybyddiaeth o wasanaeth dienw Fearless.org gyda chynifer o bartneriaethau â phosibl.

I ddysgu mwy am waith Fearless, ewch i Fearless.orgneu anfonwch e-bost at Fearless@crimestoppers-uk.org