Caiff pobl sy'n cael eu cam-drin adael y cartref er mwyn dianc rhag y sawl sy'n eu cam-drin neu ofyn am help yn ystod y cyfnod hwn o aros gartref.
Os bydd angen help ar rywun ar unwaith, gellir deialu 999 a bydd yr heddlu yn ymateb. Os bydd angen help distaw ar rywun, gellir deialu 999 ac yna deialu 55 pan fydd y sawl sy'n ateb yr alwad yn dweud hynny.
Os nad yw'n achos brys, gellir rhoi gwybod i'r heddlu drwy ffonio 101.
Cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol
Mae cymorth ar gael bob amser i bobl sy'n cael eu cam-drin neu'n dioddef trais, gan gynnwys yn ystod yr argyfwng iechyd hwn.
Byw Heb Ofn
Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn, a gaiff ei rhedeg gan ein partneriaid, Cymorth i Ferched Cymru, ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael bob awr o'r dydd i'ch cynorthwyo.
Os ydych wedi profi cam-drin domestig, trais rhywiol a/neu drais yn erbyn menywod, neu os ydych yn poeni am ffrind neu berthynas sy'n profi unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth, gallwch ffonio'r llinell gymorth i gael help a chyngor cyfrinachol.
Mae'r llinell gymorth hefyd ar gael i ymarferwyr sydd angen cyngor proffesiynol. Caiff y llinell gymorth ei rhedeg gan dîm medrus a all gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Ffoniwch: 08088 010 800
Tecstiwch: 07800 77333
E-bostiwch: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
Gwasanaeth gwe-sgwrs: bywhebofn.org.uk
Canllawiau ac adnoddau i ymarferwyr a darparwyr gwasanaethau
Byddwn yn diweddaru'r adran hon wrth i ragor o ganllawiau gael eu cyhoeddi. Bydd pob dolen yn eich tywys i wefannau allanol dibynadwy.
Adnoddau:
Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi datblygu pecyn cymorth ar gyfer gwylwyr sy'n cynnwys cyngor a gwybodaeth benodol i gymdogion pryderus, gwirfoddolwyr perthnasol a chyflogwyr, newyddiadurwyr a phobl eraill er mwyn sicrhau y gallant godi ymwybyddiaeth yn ddiogel a chyfeirio unigolion at gymorth ̶ mae ar gael yma
Canllawiau:
Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi datblygu briff ar yr hyn y dylid ei ystyried er mwyn sicrhau y caiff goroeswyr eu cefnogi a bod gwasanaethau arbenigol yn parhau ar agor ̶ mae ar gael yma
Mae Menywod yn erbyn Trais Ewrop wedi rhannu gwybodaeth am ddarparu gwasanaethau arbenigol, sy'n cynnwys yr hyn sydd wedi'i ddysgu o bedwar ban byd ̶ mae ar gael yma
Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau i ddarparwyr llety goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ̶ maent ar gael yma
Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi datblygu canllawiau i reolwyr llinell ar gefnogi aelodau o'u tîm sy'n dioddef cam-drin domestig ac sy'n gweithio gartref ̶ maent ar gael yma
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi cyhoeddi briff ar y rôl bwysig sydd gan systemau iechyd i'w chwarae o ran sicrhau bod gwasanaethau i fenywod sydd wedi dioddef trais yn parhau i fod yn ddiogel ac ar gael yn ystod pandemig COVID-19 ̶ mae ar gael yma
Mae'r WHO ac UN Women wedi datblygu egwyddorion ac argymhellion i'r rheini sy'n bwriadu mynd ati i gasglu data ar effaith COVID-19 ar drais yn erbyn menywod a merched ̶ maent ar gael yma
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi datblygu canllawiau ar wasanaethau llysoedd neu dribiwnlysoedd ̶ maent ar gael yma
Mae canllawiau ar achosion llys sifil a theulu ar gael yma