Jump to content

COVID-19: Niweidio a cham-drin plant a phobl ifanc

Caiff pobl sy'n cael eu cam-drin adael y cartref er mwyn dianc rhag y sawl sy'n eu cam-drin neu ofyn am help yn ystod y cyfnod hwn o aros gartref.

Os bydd angen help ar rywun ar unwaith, gellir deialu 999 a bydd yr heddlu yn ymateb. Os bydd angen help distaw ar rywun, gellir deialu 999 ac yna deialu 55 pan fydd y sawl sy'n ateb yr alwad yn dweud hynny.

Os nad yw'n achos brys, gellir rhoi gwybod i'r heddlu drwy ffonio 101.

Cymorth i blentyn neu berson ifanc sy'n cael ei gam-drin neu'n dioddef trais

Mae cymorth ar gael bob amser i bobl sy'n cael eu cam-drin neu'n dioddef trais, gan gynnwys yn ystod yr argyfwng iechyd hwn.

Mae sefydliadau a all gynnig cymorth cyfrinachol i blant a phobl ifanc sy'n cael eu niweidio a'u cam-drin, a gallant eu helpu i roi gwybod am hynny'n ffurfiol os byddant yn teimlo y gallant wneud hynny.

The Mix

Mae The Mix yn darparu cymorth a gwybodaeth i bobl o dan 25 oed.

Ffoniwch am ddim ar 0808 808 4994 unrhyw ddiwrnod rhwng 4pm ac 11pm.
Ni fydd yr alwad i'w gweld ar eich bil ffôn.

Gallwch siarad ar-lein un i un ag aelod o dîm The Mix unrhyw ddiwrnod rhwng 4pm ac 11pm.
Ewch i wefan The Mix i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn>>

Cysylltwch â'r gwasanaeth Crisis Messenger 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos drwy decstio THEMIX i 85258.

Childline

Mae Childline yn parhau i wasanaethu plant a phobl ifanc, ar-lein a dros y ffôn, unrhyw bryd.

Ffoniwch am ddim ar 0800 1111 unrhyw ddiwrnod rhwng 9am a hanner nos.
Ni fydd yr alwad i'w gweld ar eich bil ffôn.

Gallwch siarad ar-lein un i un â chwnselydd unrhyw ddiwrnod rhwng 9am a hanner nos.
Ewch i wefan Childline i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn>>

E-bostiwch un o gwnselwyr Childline unrhyw bryd.

Ewch i wefan Childline i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn>>

Meic

Mae Meic yn darparu gwybodaeth a chyngor cyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc, yn ogystal â llinell gymorth eirioli.

Ffoniwch am ddim ar 080880 23456 unrhyw ddiwrnod rhwng 8am a hanner nos.
Ni fydd yr alwad i'w gweld ar eich bil ffôn.

Gallwch siarad ar-lein un i un ag aelod o'r tîm rhwng 8am a hanner nos.
Ewch i wefan Meic i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn>>

Tecstiwch 84001 unrhyw bryd.
Ni chodir tâl ac ni fydd y neges i'w gweld ar eich bil ffôn

Cymorth i bobl sy'n poeni am blentyn neu berson ifanc

Os byddwch chi neu rywun arall yn poeni am blentyn neu berson ifanc, mae cymorth ar gael.

Llinell Gymorth yr NSPCC

Mae llinell gymorth yr NSPCC yn parhau i fod ar gael i oedolion sy'n poeni am blentyn neu berson ifanc. Bydd gweithwyr proffesiynol sydd wedi cael eu hyfforddi yn trafod eich pryderon, yn rhoi cyngor arbenigol ac yn cymryd camau priodol i amddiffyn y plentyn.

Ffoniwch 0808 800 5000
Mae'r llinell gymorth ar agor bob awr o'r dydd

E-bostiwch
help@nspcc.org.uk


Llinell Gymorth Stop It Now!

Mae llinell gymorth gyfrinachol Stop It Now!, a redir gan Sefydliad Lucy Faithfull, ar gael i unrhyw un sy'n poeni am gam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys unigolion sy'n meddwl am blant mewn ffordd rywiol niweidiol.

Ffoniwch 0808 1000 900

Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 9am a 9pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 9am a 5pm ar ddydd Gwener, ac mae ar gau ar y penwythnos a gwyliau banc

Mae gwasanaeth negeseua diogel Stop It Now! ar gael bob awr o'r dydd a byddwch fel arfer yn cael ymateb o fewn 5–7 diwrnod gwaith.

Ewch i wefan Stop It Now! i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn>>


Llinell Gymorth Young Minds i Rieni

Mae Llinell Gymorth Young Minds i Rieni ar gael i gynnig cyngor cyfrinachol i rieni a gofalwyr sy'n poeni am blentyn neu berson ifanc o dan 25 oed.

Ffoniwch 0808 802 5544
Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 9.30am a 4pm

Gallwch e-bostio'r Llinell Gymorth gan ddefnyddio ffurflen gyswllt ar wefan Young Minds.
Bydd y cynghorwyr sydd wedi'u hyfforddi yn ceisio ymateb o fewn tri diwrnod gwaith.
Ewch i wefan Young Minds i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn


Canllawiau ac adnoddau i ymarferwyr a darparwyr gwasanaethau

Byddwn yn diweddaru'r adran hon wrth i ragor o ganllawiau gael eu cyhoeddi. Bydd pob dolen yn eich tywys i wefannau allanol dibynadwy.

Adnoddau:

Mae'r NSPCC ac O2 yn cydweithio i gynnig gweminarau rhagarweiniol 30 munud am ddim ar gadw teuluoedd yn ddiogel ar-lein. Mae'r gweminarau yn tynnu sylw at y risgiau y gall plant eu hwynebu ar-lein, yn ogystal â chynnig cyngor ymarferol a chyfeirio unigolion at gymorth a chefnogaeth. I drefnu gweminar, e-bostiwch parentworkshops@nspcc.org.uk

Mae UNICEF yn gweithio gydag arbenigwyr iechyd ddydd a nos i ddarparu cyngor ac arweiniad i deuluoedd ar bopeth, o sut i siarad â phlant am COVID-19, i sut i olchi dwylo'n gywir, a chyngor i blant a phobl ifanc yn eu harddegau ar sut i ddiogelu eu hiechyd meddwl ̶ mae'r wybodaeth ar gael yma

Mae Sefydliad Lucy Faithfull yn diogelu plant a phobl ifanc rhag cam-drin rhywiol drwy ei atal ac ymateb iddo. Mae ei wefan yn cynnwys adnoddau a gwybodaeth i oedolion a gweithwyr proffesiynol, sydd ar gael yma

Canllawiau:

Mae gwefan yr NSPCC yn cynnwys llawer o gyngor ac awgrymiadau i rieni a gofalwyr, megis gweithio o gartref neu siarad â phlant sy'n poeni am y coronafeirws ̶ mae ar gael yma

Mae gwefan yr NSPCC yn cynnwys cyngor ar sut i gadw plant yn ddiogel ar-lein ̶ mae ar gael yma

Mae Europol wedi cyhoeddi canllawiau ar amddiffyn plant a phobl ifanc rhag pobl sy'n camfanteiso'n rhywiol ar blant yn ystod y pandemig ̶ maent ar gael yma

​Mae'r Sefydliad Ymyrraeth Gynnar wedi rhyddhau adroddiad, sef Covid-19 and early intervention, sy'n archwilio'r dystiolaeth, yr heriau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau yn rhithwir ac yn ddigidol ̶ mae ar gael yma