Caiff pobl sy'n cael eu cam-drin adael y cartref er mwyn dianc rhag y sawl sy'n eu cam-drin neu ofyn am help yn ystod y cyfnod hwn o aros gartref.
Os bydd angen help ar rywun ar unwaith, gellir deialu 999 a bydd yr heddlu yn ymateb. Os bydd angen help distaw ar rywun, gellir deialu 999 ac yna deialu 55 pan fydd y sawl sy'n ateb yr alwad yn dweud hynny.
Os nad yw'n achos brys, gellir rhoi gwybod i'r heddlu drwy ffonio 101.
Cymorth i berson hŷn sy'n cael ei gam-drin neu sy'n dioddef trais
Mae cymorth ar gael bob amser i bobl sy'n cael eu cam-drin neu'n dioddef trais, gan gynnwys yn ystod yr argyfwng iechyd hwn.
Hourglass
Ffoniwch 0808 808 8141 am ddim
Mae'r Llinell Gymorth ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch adael neges y tu allan i'r oriau hyn a bydd rhywun yn ymateb pan fydd y llinell gymorth yn ailagor.
Ewch i www.wearehourglass.cymru i gael llawer o wybodaeth a manylion am gymorth.
Canllawiau ac adnoddau i ymarferwyr a darparwyr gwasanaethau
Byddwn yn diweddaru'r adran hon wrth i ragor o ganllawiau gael eu cyhoeddi. Bydd pob dolen yn eich tywys i wefannau allanol dibynadwy.
Adnoddau:
Mae Menter Dewis Choice Prifysgol Aberystwyth yn darparu sesiynau hyfforddi ar-lein am ddim i unrhyw weithiwr proffesiynol a all fod mewn cysylltiad ag oedolion hŷn sy'n cael eu cam-drin gan bartneriaid ac aelodau o'r teulu ̶ mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
Mae gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru Hyb Gwybodaeth am y Coronafeirws sydd ar gael yma
Canllawiau:
Mae Asiantaeth Safonau Masnach Cymru yn darparu canllawiau ar droseddau ar stepen y drws a'r camau y gall pobl eu cymryd i'w hatal ̶ maent ar gael yma