Mae Uned Atal Trais Cymru wedi cyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol sy'n nodi bod dros 500 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan yn yr ymyriadau a gomisiynwyd ganddi yn 2020-21.
Mae 770 o blant a phobl ifanc eraill a 574 o weithwyr proffesiynol wedi cael budd o weithdai a hyfforddiant ar atal trais fel rhan o raglen ‘Fearless’ a gomisiynwyd gan Crimestoppers.
“Gwelsom lawer iawn o lwyddiannau'r llynedd, gan gynnwys darparu nifer o ymyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi helpu i gadw pobl ifanc yn Ne Cymru yn ddiogel.
“Fodd bynnag, rydym hefyd wedi goresgyn heriau sylweddol wrth ddarparu gwasanaethau. Gan y bu'n rhaid i ni dreulio'r rhan fwyaf o'n hamser gartref ers mis Mawrth 2020, mae ein darparwyr ymyriadau wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o gysylltu â defnyddwyr gwasanaethau a'r gymuned ehangach.
“Yr hyn a ddaeth yn glir iawn i mi wrth i ni lunio'r adroddiad hwn, yw bod cymorth a chydweithrediad gan bartneriaid ledled Cymru wedi bod yn hanfodol i lwyddiannau'r flwyddyn ddiwethaf. Hoffwn ddiolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu at ein cenhadaeth o atal trais yng Nghymru – rydym yn sicr yn mynd i'r cyfeiriad cywir i wneud Cymru yn lle mwy diogel i bawb.”
Jon Drake, Director, Cyfarwyddwr, Uned Atal Trais Cymru
Mae'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am yr ymyriadau a gomisiynwyd gan yr Uned, prosiectau ymchwil a gweithgarwch gweithredol yn ystod ei blwyddyn lawn gyntaf yn gweithredu. Mae hefyd yn edrych tua'r dyfodol, gan nodi'r hyn y bydd yr Uned yn canolbwyntio arno y flwyddyn nesaf a thu hwnt.