Fel rhan o'i chylch gwaith i gefnogi partneriaid yng Nghymru i gyflwyno dull iechyd y cyhoedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth o atal trais, mae Uned Atal Trais Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Monitro Trais ddwywaith y flwyddyn.
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno data ar amrywiaeth o fathau o drais gan sefydliadau ym maes plismona, iechyd a sefydliadau yn y trydydd sector er mwyn helpu i roi darlun llawn o drais yng Nghymru.
Bydd yr adroddiad hwn ar gael ar Borth Atal Trais Cymru, i bob gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio ym maes atal trais.
Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer cyfrif Porth Atal Trais Cymru