Jump to content

Ailagor bywyd nos wrth reoli COVID-19 ac atal trais

Mae'r ddelwedd yn dangos y naw ystyriaeth ar gyfer ailagor bywyd nos a gyflwynwyd gan Uned Atal Trais Cymru

Mae Uned Atal Trais Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o’i hymchwil ar ailagor bywyd nos wrth reoli COVID-19 ac atal trais.

Ail-agorodd tafarnau, bariau, bwytai a chaffis ar gyfer gwasanaeth dan do ddydd Llun 3 Awst. Er mwyn cefnogi gwaith asiantaethau partner i ailagor bywyd nos yn ddiogel ac atal trais, mae’r uned wedi cynnal ymchwil cyflym mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i asesu’r dystiolaeth ac arferion gorau byd-eang sy’n dod i’r amlwg.

Mae crynodeb gweithredol yr adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw (5 Awst), yn cynnwys enghreifftiau allweddol o sut mae bywyd nos wedi ailagor ledled y byd, sut y gall mesurau i leihau risgiau COVID-19 effeithio ar risgiau trais a darparu ystyriaethau allweddol ar gyfer agor bywyd nos yng Nghymru.

“Yn ystod cyfyngiadau COVID-19, mae data'n dangos bod trais mewn mannau cyhoeddus wedi lleihau ond mae tystiolaeth y gall bywyd nos a'r cynnydd cysylltiedig yn y defnydd o alcohol waethygu'r risg o drais, gan gynnwys trais person-ar-berson a thrais rhywiol.

“Mae’n bwysig bod pobl yn gallu mwynhau cymdeithasu’n ddiogel, a bod mesurau ar waith i amddiffyn pobl nid yn unig rhag lledaeniad coronafeirws ond hefyd rhag trais.

“Mae ein hargymhellion yn darparu cefnogaeth i’r gwaith a gyflawnwyd eisoes gan ein partneriaid i ailagor bywyd nos yn ddiogel ac edrych ar gyfleoedd pellach inni weithio gyda’n gilydd i gadw pobl yn ddiogel.”

Jonathan Drake, Cyfarwyddwr, Uned Atal Trais Cymru

“Mae'n hanfodol ein bod yn ystyried sut mae trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu rheoli mewn bywyd nos yn ystod cyfyngiadau COVID ac rwy'n falch iawn bod yr Uned Atal Trais wedi ymateb i'r her.

“Mae bywyd nos yn chwarae rhan bwysig yng ngwead economaidd Cymru. Bydd sicrhau y gall pobl fwynhau nosweithiau allan wedi'u hamddiffyn rhag COVID-19 ac ymddygiad ymosodol hefyd yn helpu i adfer yr agweddau cymdeithasol ar fywyd y mae cymaint o bobl wedi ymatal rhag cymryd rhan ynddynt yn ystod y misoedd diwethaf."

Mark Bellis, Cyfarwyddwr, Canolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dadlwythwch y crynodeb gweithredol

Dadlwythwch y ffeithlun