Jump to content

e-Fwletin Ebrill 2022

Mae'r e-Fwletin ar ei newydd wedd yn cynnwys gwybodaeth am ein setliad cyllido tair blynedd diweddaraf. Dyma'r setliad cyllido hiraf eto i Uned Atal Trais Cymru, a fu'n gweithredu ar gylch cyllido blynyddol hyd yma.

Rydym hefyd yn trafod ein pum blaenoriaeth allweddol i'n helpu ni a'n partneriaid i gyflawni ein cenhadaeth o atal trais yng Nghymru, sef:

  • Cyd-lunio
  • Lleihau anghydraddoldeb
  • Ymgysylltu ag addysg
  • Partneriaethau ar gyfer atal
  • Gwerthuso ein heffaith

Mae'r e-Fwletin hefyd yn rhannu gwybodaeth am yr ymchwil a'r adnoddau diweddaraf o ran atal trais. Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys adroddiad gwerthuso 2021 yr Unedau Lleihau Trais, yn ogystal ag adolygiad tystiolaeth ac ymarfer mapio ‘Beth sy'n Gweithio o ran Atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ar Lefel Gymunedol?’ a'r Cynllun i Drechu Cam-drin Domestig trawslywodraethol.

Darllenwch yr e-Fwletin yma.

Cysylltwch â ni os hoffech gael copi o'r e-Fwletin yn syth i'ch mewnflwch: phw.violencepreventionunit@wales.nhs.uk