Cynhaliodd Peer Action Collective (PAC) Cymru Daith Oedolion y gellir Ymddiried Ynddynt yn ddiweddar i rannu canfyddiadau ei waith ymchwil. Digwyddiad data rhyngweithiol oedd y Daith Oedolion y gellir Ymddiried Ynddynt ac roedd yn cynnwys profiadau plant a phobl ifanc a oedd wedi cymryd rhan yng nghyfweliadau ymchwil PAC Cymru yn gynharach eleni.
Y cwestiwn a ofynnwyd yn ystod y daith oedd:
“A yw cael oedolyn y gellir ymddiried ynddo yn eich bywyd yn wahanol i beidio â chael oedolyn o'r fath? Beth yw'r gwahaniaeth?“
Cafodd y cyfranogwyr gyfle i gerdded ar hyd dau lwybr cyfochrog. Roedd un yn cynrychioli profiad plentyn nad oedd ganddo oedolyn y gellir ymddiried ynddo yn ei fywyd ac roedd un yn cynrychioli profiad plentyn oedd ag oedolyn y gellir ymddiried ynddo yn ei fywyd. Roedd y ddau lwybr yn dangos sut y gall plentyn oresgyn heriau mewn bywyd pan fydd ganddo gymorth gan oedolyn y gellir ymddiried ynddo, tra bo'r rhai nad oedd ganddynt oedolyn y gellir ymddiried ynddo yn gorfod goresgyn heriau niferus bywyd ar eu pen eu hunain, heb gymorth.
“Dim ond enghraifft fach o'n harddangosfa yn 2025 oedd y Daith Oedolion y gellir Ymddiried Ynddynt. Bydd yr arddangosfa lawn yn cynnwys straeon gan bobl ifanc rydym wedi gweithio gyda nhw, canfyddiadau ein hymchwil, themâu a thasgau yn seiliedig ar gwestiynau ein hymchwil.”
Steph McArdle, Cydlynydd prosiect PAC Cymru
Bwriad y daith oedd sbarduno sgyrsiau am oedolion y gellir ymddiried ynddynt a'r rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth ymgysylltu ag oedolyn y gellir ymddiried ynddo. Roedd y daith yn cynnwys fideos, darnau o ddyddiaduron a llythyrau gan bobl ifanc fel y gallai'r cyfranogwyr glywed a darllen straeon pobl ifanc sydd wedi cael cymorth a'r rhai nad ydynt erioed wedi cael cymorth.
“Un darn creadigol iawn a gafodd lawer o ganmoliaeth oedd y darnau o ddyddiaduron (yr ochr negyddol) a'r llythyrau (yr ochr gadarnhaol). Gan fod y rhain yn ddigwyddiadau trawmatig iawn a gododd mewn cyfweliadau â'r bobl ifanc, gwnaethant helpu i ddangos pa mor anodd yw bywyd heb gymorth oedolyn y gellir ymddiried ynddo. Sicrhaodd y llythyrau ein bod yn gallu rhoi ein hunain yn sefyllfa pobl ifanc sy'n wynebu anawsterau, gan ein helpu i bwysleisio a deall y gwahaniaeth trawiadol rhwng cael cymorth gan rywun y gellir ymddiried ynddo a pheidio â chael y cymorth hwnnw. Roedd y llythyrau yn effeithiol iawn ac yn agoriad llygad.”
Ymchwilydd Cyfoedion
“Rwyf wedi mwynhau gallu helpu i greu'r arddangosfa hon yn fawr, fel y gall pobl ddod i wylio sut rydym yn arddangos ein gwaith a gweld ein syniadau ar gyfer pobl ifanc yn y dyfodol.”
Ymchwilydd Cyfoedion
Cynhaliwyd trafodaeth bord gron o dan arweiniad ymchwilwyr cyfoedion ar ôl y daith er mwyn myfyrio ar yr arddangosfa a nodi'r rhwystrau sy'n wynebu pobl ifanc wrth ymgysylltu ag oedolion y gellir ymddiried ynddynt, fel dynameg pŵer anghyfartal, anhygyrchedd, diffyg ymwybyddiaeth a gwybodaeth ymhlith pobl ifanc o ran sut i ymgysylltu ag oedolion y gellir ymddiried ynddynt.
I ddysgu mwy am waith PAC Cymru gyda phobl ifanc – cliciwch ar y dolenni cyfryngau cymdeithasol: Instagram | Twitter