Mae'r asesiad systematig hwn o dystiolaeth, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi ymyriadau sylfaenol ac eilaidd effeithiol i atal trais o'r fath, er mwyn llywio'r broses o fabwysiadu polisïau ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn broblem fawr o ran iechyd y cyhoedd, cyfiawnder troseddol a hawliau dynol, a gallant gael effaith ddinistriol ar y sawl sy'n eu profi. Mae'r diweddariad i strategaeth Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol sydd ar ddod yn ymrwymo i geisio atal trais o'r fath a sicrhau ymyrraeth gynnar. Bydd ein hasesiad systematig o'r dystiolaeth, felly, yn ein helpu ni i gyd i flaenoriaethu ymyriadau effeithiol ar gyfer atal, sy'n hanfodol os ydym am dorri'r cylch o drais yng Nghymru.
Prif neges yr adroddiad hwn yw ei bod yn bosibl i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a bod mesurau atal yn effeithiol. Nawr, yn fwy nag erioed o'r blaen, rydym yn gwybod beth sy'n gweithio a sut i fynd ati, gyda thystiolaeth newydd o arferion effeithiol yn dod i'r amlwg drwy'r amser.
Mae'r adroddiad yn nodi amrywiaeth o ddulliau gweithredu effeithiol sydd wedi'u cynllunio i atal trais o'r fath ar lefel yr unigolyn, y berthynas, y gymuned a'r gymdeithas ac yng nghyd-destun addysg, iechyd, bywyd nos ac yn y gymuned. Gwyddom, o ymchwil wyddonol ar atal ym maes iechyd y cyhoedd, fod yn rhaid i ni gydweithio i ddatblygu ‘ecosystem’ o ymyriadau sy'n targedu'r hyn sy'n arwain at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy ddull system gyfan, yn hytrach na buddsoddi mewn prosiectau unigol ar wahân.
Mae'r asesiad hefyd yn tynnu sylw at yr angen i fuddsoddi mewn rhagor o waith ymchwil a gwerthuso ymyriadau newydd, yn arbennig rhaglenni atal a gynlluniwyd ar y cyd â chymunedau amrywiol, ac ar eu cyfer.