Heddiw (dydd Mercher 11 Mawrth) lansiwyd partneriaeth rhwng sefydliadau iechyd, cymdeithasol a chyfiawnder troseddol er mwyn rhoi diwedd ar drais yng Nghymru.
Sefydlwyd Uned Atal Trais Cymru gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid yng Nghymru, gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac wedi'i chefnogi gan arian wedi'i dargedu gan y Swyddfa Gartref.
Ledled Cymru, mae 31% o'r troseddau a gaiff eu cyflawni yn rhai treisgar a rhywiol. Bydd y tîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig yn gweithio gyda phartneriaid i atal pob math o drais yng Nghymru drwy ymchwilio i achosion sylfaenol trais, gwerthuso effeithiolrwydd ymyriadau atal trais presennol a rhoi ymyriadau newydd ar waith sy'n dilyn y dystiolaeth.
Dywedodd Jon Drake, Cyfarwyddwr Uned Atal Trais Cymru: “Gallwn atal trais a'r effaith ddinistriol a'r boen y mae'n ei achosi drwy ddod â'r bobl gywir o'r sefydliadau cywir ynghyd a rhannu ein gwybodaeth a'n brwdfrydedd i helpu pobl a chymunedau ledled Cymru.
“Rydym eisoes yn cyflawni ac yn comisiynu gwaith hanfodol i roi diwedd ar drais, gan gynnwys gwaith wedi'i dargedu gyda throseddwyr yng Nghaerdydd ac Abertawe a chomisiynu ein partneriaid cyflawni, Media Academy Cymru, i weithio gyda phobl ifanc a'u teuluoedd.”
Y Gwir Anrh Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru: Fel Arweinwyr yr Heddlu yng Nghymru, mae'r pedwar Comisiynydd a'r pedwar Prif Gwnstabl wedi dangos yr effaith y gall gweithio mewn partneriaeth effeithiol ei chael. Rydym yn benderfynol o ganolbwyntio ar fater pwysig trais difrifol – boed hynny ar y strydoedd neu mewn lleoliadau domestig – drwy fynd i'r afael ag achosion sylfaenol drwy ymyrryd yn gynnar a chymryd camau prydlon a chadarnhaol. Mae digwyddiadau treisgar yn achosi dioddefaint hirdymor i'r rhai dan sylw. Maent hefyd yn rhoi pwysau sylweddol ar blismona, y Gwasanaeth Ambiwlans a'r GIG yn gyffredinol, yn ogystal ag ar ein llysoedd a'n carchardai. Mae gennym ddewis syml: rydym naill ai'n ysgogi'r agenda atal – dull sy'n seiliedig ar iechyd y cyhoedd – neu rydym yn defnyddio mwy a mwy o adnoddau i geisio gwella pethau pan fydd hi'n rhy hwyr. A dweud y gwir, dyna sydd wedi digwydd yn y gorffennol.
“Yn anffodus, bydd angen i'r heddlu ymateb i ryw lefel o drais yn lleol am byth, yn ogystal â bygythiadau fel Llinellau Cyffuriau, troseddau cyfundrefnol ac eithafiaeth dreisgar.
"Ond ein huchelgais yw ‘newid y tywydd’ yn hytrach nag agor ambarél.
“Mae'r Uned Atal Trais yn cynnig cyfle unigryw i Blismona yng Nghymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Timau Troseddwyr Ifanc ac Awdurdodau Lleol – yn ogystal ag ysgolion, colegau a'r sector gwirfoddol – adeiladu ar yr ethos cydweithio cryf sydd wedi bod yn rhan ganolog o'n dull gweithredu yma yn Ne Cymru. Gyda'r dull gweithredu a'r ymrwymiad cywir, gallwn atal pobl rhag cael eu denu i fywyd troseddol ac ymddygiad camdriniol yn y lle cyntaf a hyrwyddo camau uniongyrchol i ddargyfeirio'r rhai sydd wedi dechrau troseddu.”
Dywedodd Jan Williams, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae trais yn fater iechyd y cyhoedd. Mae byw heb ofn trais yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant, heb sôn am gostau sylweddol trais i'r GIG bob blwyddyn.
Gallwn atal trais drwy weithio gyda'n gilydd, canfod achosion sylfaenol trais a rhoi ymyriadau ar waith y mae tystiolaeth wedi dangos y byddant yn gweithio.”
Dywedodd Matt Jukes, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru: “Mae atal wrth wraidd plismona yng Nghymru ac rydym yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid eraill i fod yn fwy ymwybodol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a datblygu gweithlu sy'n ystyriol o drawma yn y sector plismona a chyfiawnder troseddol.
Mae swyddogion yn gweithio'n ddiflino i gadw pobl a chymunedau'n ddiogel, ond rydym yn deall na allwn greu cenedl ddi-drais drwy arestio'n unig, felly rwy'n falch o fod yn gweithio gydag Uned Atal Trais Cymru ar ymyriadau arloesol ac effeithiol i atal trais.”
Cafodd yr Uned ei lansio'n swyddogol yng Nghynhadledd Atal Trais gyntaf Cymru, a ddaeth ag arbenigwyr o bob cwr o Gymru ynghyd am ddiwrnod llawn dysgu, rhannu ac arloesi er mwyn atal trais.
Dangosodd y digwyddiad nifer o ymyriadau a ddarparwyd, a gomisiynwyd neu a gefnogwyd gan yr Uned Atal Trais sydd eisoes ar waith yng Nghymru er mwyn atal trais. Cafodd y rhai a oedd yn bresennol y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai i helpu i ddiffinio eu rôl o ran atal trais a rhoi mewnbwn gwerthfawr i strategaeth ymateb Uned Atal Trais Cymru.