Mae Uned Atal Trais Cymru wedi cyhoeddi Canllawiau ar gyfer ardaloedd lleol sy'n cynnal asesiadau o anghenion strategol amlasiantaethol fel rhan o'r Ddyletswydd Trais Difrifol.
Mae'r Canllawiau, sy'n benodol i Gymru, yn dangos y prif gamau er mwyn datblygu asesiad o anghenion strategol ac yn cynnwys materion trawsbynciol i bartneriaethau lleol eu hystyried, fel rhan o ddull gweithredu iechyd y cyhoedd.
Mae'r canllawiau hefyd yn rhoi cyfarwyddiadau i bartneriaid gael gafael ar yr adnoddau a'r deunyddiau allweddol sydd eu hangen i gwblhau asesiadau o anghenion strategol, gan gynnwys awgrymiadau o ffynonellau data, diffiniadau o drais, damcaniaeth atal trais ac enghreifftiau o ymarfer effeithiol, a chanllawiau ar sut i ddatblygu argymhellion.
Mae asesiadau o anghenion strategol yn hollbwysig er mwyn deall sut mae trais yn effeithio ar gymunedau, fel y gall partneriaid gydweithio i ddatblygu strategaethau a gweithgareddau effeithiol i'w atal. O dan y Ddyletswydd Trais Difrifol, mae cyfle i bartneriaid gynnal yr asesiadau hyn ar lefel lawer mwy lleol, a fydd yn helpu i sicrhau bod amser, adnoddau ac arian gwerthfawr yn cael eu buddsoddi yn y gweithgareddau cywir er mwyn cefnogi cymunedau a phobl sy'n agored i niwed.
Mae Uned Atal Trais Cymru yn datblygu nifer o adnoddau a deunyddiau er mwyn helpu sefydliadau i weithredu'r Ddyletswydd yn effeithiol a chymryd camau cydygysylltiedig i atal trais yn eu hardaloedd lleol. Er enghraifft, bydd Porth Atal Trais Cymru, llwyfan data ar-lein a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer partneriaid ym maes atal trais yng Nghymru, yn cael ei lansio ddiwedd y mis. Bydd y Porth hwn yn amhrisiadwy i'r rhai sy'n cwblhau asesiadau o anghenion strategol ac, o'i ddefnyddio ar y cyd รข'r Canllawiau, bydd yn helpu i sicrhau bod partneriaid ledled Cymru'n cael darlun cywir a realistig o'r mathau o drais sy'n effeithio ar eu hardaloedd lleol a'u lefelau.
Dan Jones, Pennaeth Uned Atal Trais Cymru