Ymunodd Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion o bob rhan o Gymru â gweminar a gynhaliwyd gan Uned Atal Trais Cymru ddydd Gwener 10 Gorffennaf i roi gwybodaeth a chanllawiau iddynt i gryfhau eu hymatebion i blant agored i niwed yr effeithiwyd arnynt gan drais yn ystod cyfnod clo COVID-19.
Wrth i ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol, mae'r Swyddogion yn parhau i chwarae rôl hanfodol i amddiffyn plant a phobl ifanc ac ymateb i bryderon sy'n ymwneud â thrais a chamdriniaeth. Gan weithio gyda chydgysylltwyr y Rhaglen Cyswllt Ysgolion ar gyfer pob heddlu, datblygodd yr Uned raglen weminar a oedd yn ymdrin â'r pryderon allweddol a godwyd gan Swyddogion yn ystod y cyfnodau diweddar pan fu ysgolion ar gau.
Canolbwyntiodd sesiynau a gyflwynwyd gan Uned Atal Trais Cymru, Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian a Cymorth i Ferched Cymru ar effaith COVID-19 ar drais difrifol ymhlith pobl ifanc, camfanteisio'n rhywiol ar blant, cam-drin ar-lein a cham-drin domestig.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mat Lewis, Arweinydd ar gyfer yr Heddlu yn Uned Atal Trais Cymru:
“Mae'r Uned wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i fonitro effaith y cyfnod clo ar drais. Mae'r data wedi dangos bod y galw am wasanaethau cymorth wedi cynyddu, ond ychydig a wyddys am y ffordd y mae'r cyfnod clo wedi effeithio ar blant a theuluoedd agored i niwed.
“Mae pryder gwirioneddol yn y sector plismona ac addysg y bydd materion diogelu a datgeliadau gan blant a phobl ifanc am drais a chamdriniaeth y maent yn eu dioddef yn cynyddu nawr bod ysgolion ar agor ac wrthi'r disgyblion hyn ddychwelyd i ryw fath o noddfa.
“Defnyddiwyd y weminar i loywi gwybodaeth ac ymwybyddiaeth Swyddogion o fathau allweddol o drais y gall disgyblion fod yn eu dioddef a sut y gall COVID-19 fod wedi effeithio ar hyn, er mwyn eu paratoi'n well i adnabod plant a phobl ifanc yr effeithiwyd arnynt gan drais yn ystod y cyfnod clo ac ymateb iddynt.”
Dywedodd PC Gareth Williams, Diogelwch Cymunedol, Llanelwy:
“Gan fy mod yn newydd i rôl Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion (dechreuais ym mis Medi 2020!), roedd y weminar yn ddefnyddiol iawn ac yn rhoi tawelwch meddwl i mi wrth i mi ddysgu mwy am y rôl.
Mae'n braf gweld bod cymorth a chydweithrediad amlochrog a meddylgar gan y gymuned o asiantaethau sy'n helpu, yn addysgu ac yn diogelu ein plant a'n pobl ifanc wrth iddynt ymdrin â'r heriau a'r cyfnodau pontio amrywiol ar hyd y daith, yn enwedig o dan yr amodau presennol.”
Dywedodd PC Craig Hadley, Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion, Abertawe:
“Roedd yn dda defnyddio'r dechnoleg y mae pob un ohonom yn addasu i'w defnyddio er mwyn canolbwyntio ar y pryderon allweddol sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yn ein cymunedau.
“Roedd yn nodyn atgoffa amserol i ystyried, mewn achosion pan fydd plant yn dioddef cam-drin domestig gartref, fod angen cadw llygad am y rheolaeth drwy orfodaeth y gallent fod yn ei dioddef yn ogystal â'r rheolaeth drwy orfodaeth y maent yn dyst iddi.”