Jump to content

COFRESTRU AR AGOR: Gweithdai gyfer Fframwaith Strategol ar gyfer Atal Trais Ymhlith Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru

Ymunwch â ni yn ein gweithdy yn eich ardal chi a rhannwch eich barn i lywio datblygiad ein Fframwaith Strategol ar gyfer Atal Trais Ymhlith Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru gyda a Peer Action Collective (PAC) Cymru

Mae Uned Atal Trais Cymru a Peer Action Collective Cymru yn cydgynhyrchu fframwaith amlasiantaeth strategol ar gyfer atal trais ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru.

I lywio datblygiad y fframwaith, drwy gydol mis Hydref, bydd Uned Atal Trais Cymru yn cynnal cyfres o weithdai ar lein ac wyneb yn wyneb ar gyfer partneriaid amlasiantaeth. Mae'r gweithdai hyn yn eich gwahodd i wrando, trafod a chydgynhyrchu datrysiadau trais ymhlith ieuenctid i Gymru.

Dydd Iau 6 Hydref

12:30 – 3:30pm

Wrecsam

Ystafell B108

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Ffordd Yr Wyddgrug

Wrecsam

LL11 2AW

Cofrestrwch ar Eventbrite

Dydd Iau 13 Hydref

12:30 – 3:30pm

Casnewydd

Stadiwm Rodney Parade

Rodney Rd

Casnewydd

NP19 0UU

Cofrestrwch ar Eventbrite

Dydd Mercher 19 Hydref

1:00 – 3:30pm

Ar-lein

Microsoft Teams

Cofrestrwch ar Eventbrite

Dydd Mawrth 25 Hydref

12:30 – 3:30pm


Carmarthen

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Neuadd Middleton

Llanarthne

Sir Gaerfyrddin
Cofrestrwch ar Eventbrite

Dydd Mercher 26 Hydref

12:30 – 3:30pm

Pontypridd

PDC Pontypridd Canolfan Gynadledda

Llantwit Rd

Pontypridd

CF37 1DL

Cofrestrwch ar Eventbrite

Darperir cyfieithu ar y pryd i'r rheini sy'n dymuno siarad Cymraeg. Bydd cinio gwaith yn cael ei ddarparu ym mhob digwyddiad wyneb yn wyneb.

Pwy ddylai fynychu?

Mae trais ymhlith ieuenctid yn fater cymhleth, i gymdeithas gyfan sydd ag effeithiau niweidiol ar iechyd a lles plant, pobl ifanc ac oedolion drwy gydol eu bywydau. Nid oes un datrysiad i ddal pawb nac un asiant sydd â'r atebion i atal trais ymhlith ieuenctid. Yn hytrach, mae angen i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i ddatblygu dull system gyfan er mwyn galw ar bawb i weithredu.

Fel y cyfryw, bydd yn rhaid i'r fframwaith gael ei lywio gan brofiadau a syniadau plant a phobl ifanc, a gweithwyr proffesiynol i atal trais ac ymateb iddo. Os ydych yn weithiwr proffesiynol neu'n wirfoddolwr, yn gweithio i atal trais ymhlith ieuenctid, ymunwch â ni a rhannwch eich barn.

Y Fframwaith:

Plant a phobl ifanc sy'n wynebu'r risg fwyaf o brofi trais, ac yn fwyaf tebygol o brofi sawl math o drais rhyngbersonol. Fodd bynnag, gwyddom fod modd rhagweld ac atal trais, ac mae’r dystiolaeth yn dangos bod dulliau atal yn fwyaf effeithiol pan gânt eu rhoi ar waith gyda phlant a phobl ifanc.

Bwriedir defnyddio'r fframwaith hwn gan bartneriaid ledled Cymru sy'n ymwneud ag atal trais ymhlith ieuenctid, ac mae'n cael ei ddatblygu gan ac er lles plant a phobl ifanc. Caiff ei gynllunio i helpu ardaloedd lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol newydd.

Ymgynghoriad ar-lein

Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r fframwaith byddwn hefyd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus o 3 Hydref i 11 Tachwedd 2022. Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion am yr ymgynghoriad yn fuan.