Amcangyfrifir bod cost ariannol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yng Nghymru yn cyfateb i £2.2 biliwn y flwyddyn.
Mae ACEs yn brofiadau dirdynnol sy’n digwydd yn ystod plentyndod sy’n niweidio plentyn yn uniongyrchol (e.e. cam-drin rhywiol neu gorfforol) neu sy’n effeithio arno drwy’r amgylchedd y mae’n byw ynddo (e.e. tyfu i fyny mewn tŷ â thrais domestig). Mae plant sy’n profi ACEs yn fwy tebygol o fabwysiadu ymddygiadau sy’n niweidio eu hiechyd fel arddegwyr ac oedolion, ac maent mewn mwy o berygl o iechyd gwael drwy gydol eu bywydau – gan gynnwys bod mewn mwy o berygl o ddatblygu afiechydon megis canser, clefyd y galon a chlefydau anadlol. Mae’n bosibl y bydd angen mwy o gymorth arnynt gan wasanaethau gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae bron hanner yr oedolion yng Nghymru wedi profi o leiaf un ACE fel plentyn ac mae mwy nag un ym mhob deg wedi profi pedwar neu ragor o ACEs.
Mae ffeithlun newydd a gyhoeddwyd yn dilyn ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn dangos effaith ACEs ar bedwar ymddygiad risg iechyd a naw cyflwr iechyd yng Nghymru. Canfu’r ymchwil fod ACEs yn debygol o fod yn gyfrifol am 59% o’r achosion o ddefnyddio cyffuriau, sy’n gysylltiedig â chost sy’n cyfateb i £263 miliwn y flwyddyn. Roedd tua thraean o achosion o orbryder ac iselder a hanner mathau eraill o salwch meddwl hefyd yn gysylltiedig ag amlygiad at ACEs. Gyda’i gilydd, roedd hyn yn golygu cost flynyddol o £466 miliwn. Yn ogystal, priodolwyd 13% o ganserau i ACEs, gyda chost flynyddol o £476 miliwn i Gymru. Priodolwyd dau draean (64%) o gostau ACEs i’r rhai a oedd wedi profi pedwar neu ragor o ACEs. Roedd yr astudiaeth yn amcangyfrif y byddai gostyngiad o 10% mewn ACEs yng Nghymru yn arwain at arbedion blynyddol o £161 miliwn.
Caiff y canfyddiadau llawn eu cyhoeddi yn y ffeithlun newydd, The annual costs of adverse childhood experiences (ACEs) in Wales ac maent yn seiliedig ar ffigurau a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Health and financial burden of adverse childhood experiences in England and Wales: a combined primary data study of five surveys. BMJ Open 2020 (Hughes K, Ford K, Kadel R, Sharp C A, Bellis M A). Caiff y ffeithlun ei lansio ddydd Mawrth 9 Chwefror yn National Four Nations Webinar Series 2021: Public heath approaches in policing and serious violence across the UK: the learning so far.
Mae pob plentyn yn haeddu plentyndod diogel a chefnogol. Fodd bynnag, mae llawer yn parhau i dyfu i fyny yn dioddef camdriniaeth plant neu’n agored i faterion fel trais domestig yn eu cartref. Gall y niwed y mae llawer o’r plant hynny yn ei wynebu effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant hyd yn oed pan fyddant yn oedolion a phan fyddant wedi gadael cartrefi ag achosion o gamdriniaeth. Bydd atal ACEs yn diogelu plant a gall hyn eu helpu i fabwysiadu cyrsiau bywyd iachach, mwy cymdeithasol ac sy’n fwy ffyniannus yn economaidd.
Mae Cymru yn arwain y byd wrth atal ACEs, ac mae’n rhoi cymorth i’r rhai sydd wedi eu profi. Mae hefyd wedi sefydlu Hwb Cymorth ACE cenedlaethol. Fodd bynnag, mae’n arbennig o bwysig yn ystod pandemig COVID-19 ein bod ni i gyd yn ystyried y plant hynny a allai fod yn byw mewn cartrefi ag achosion o gamdriniaeth, heb unrhyw ffordd o ryngweithio â ffrindiau ac wedi’u hynysu oddi wrth wasanaethau cymorth. Mae pandemig COVID-19 yn gyfnod anodd i bawb ond gall y goblygiadau i’r rhai na allant ddianc rhag camdriniaeth ac esgeulustod ar hyn o bryd boeni a niweidio rhai plant am flynyddoedd lawer i ddod.
Mark Bellis, Cyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru