Jump to content

MAE'R YMGYNGHORIAD AR AGOR: Rhannwch eich safbwyntiau er mwyn helpu i greu Cymru heb drais

Mae'r llun yn dangos pobl ifanc gyda'r testun 'Dychmygwch deimlo'n ddiogel, ym mhobman. Dychmygwch Gymru heb drais.'

Mae'r Fframwaith Strategol ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc ar agor i gynnal ymgynghoriad o 10 Hydref hyd at 18 Tachwedd 2022.

Er mwyn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhannu eich barn i helpu'r gwaith o lywio dyfodol atal trais yng Nghymru, ewch i www.cymruhebdrais.com

Mae opsiwn ymgynghori ar gyfer plant, pobl ifanc a'r cyhoedd ac un ar gyfer gweithwyr proffesiynol – dewiswch yr opsiwn gorau i chi.

“Er mwyn i’r fframwaith weithio i Gymru, rhaid iddo gael ei lywio gan brofiadau a syniadau plant a phobl ifanc, a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio i atal trais ac ymateb iddo.

“Bydd y fframwaith hwn yn canolbwyntio ar atal yn gynnar, ac yn cefnogi partneriaid sy'n cyflwyno gwasanaethau, comisiynwyr a gwneuthurwyr polisi i wneud penderfyniadau a chynllunio gweithgareddau gyda'r nod o atal trais ymhlith plant a phobl ifanc. Mae'r cyfnod ymgynghori yn rhoi cyfle i bobl rannu eu gwybodaeth, arbenigedd a phrofiad er mwyn helpu i ddatblygu'r weledigaeth hon a chreu Cymru sy'n rhydd rhag trais.

“Rwy'n annog pawb i ymateb i'r ymgynghoriad a rhannu manylion gyda chydweithwyr, a phlant a phobl ifanc sy'n gweithio gyda nhw.”

Lara Snowdon, Arweinydd Rhaglen Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ymunwch â gweithdy!

Mae gweledigaeth a rennir ar gyfer atal trais ymhlith plant a phobl ifanc yn hanfodol. Er mwyn rhoi cefnogaeth i bartneriaid lywio'r Fframwaith, rydym yn cynnal cyfres o weithdai, ar-lein ac wyneb i wyneb, drwy gydol mis Hydref i bobl gael y cyfle i drafod a gofyn cwestiynau am y Fframwaith ac i ni gael cyfle i nodi eich adborth.

Gweler manylion y gweithdai ymgynghori a'r union leoliadau, a cofrestrwch yma.

Y Fframwaith

Caiff y fframwaith hwn ei gyd-gynhyrchu gan Uned Atal Trais Cymru a Peer Action Collective Cymru er mwyn helpu i greu Cymru heb drais.

Plant a phobl ifanc sy'n wynebu'r risg fwyaf o brofi trais, a nhw sydd fwyaf tebygol o brofi sawl math o drais rhyngbersonol. Fodd bynnag, gwyddom fod modd rhagweld ac atal trais, ac mae’r dystiolaeth yn dangos bod dulliau atal yn fwyaf effeithiol pan gânt eu rhoi ar waith gyda phlant a phobl ifanc.

Bwriedir i'r fframwaith hwn gael ei ddefnyddio gan bartneriaid ledled Cymru sy'n gysylltiedig ag atal trais gan bobl ifanc, a chaiff ei ddatblygu gan blant a phobl ifanc, ac ar eu cyfer nhw. Caiff ei gynllunio i helpu ardaloedd lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol newydd.

Ymatebion ymgynghori sefydliadol

Er mwyn cael yr ystod ehangaf bosibl o ddealltwriaeth ac arbenigedd rydym yn annog gweithwyr proffesiynol unigol i gymryd rhan, yn hytrach na chael ymatebion gan sefydliad cyfan. Fodd bynnag, os hoffech ymateb ar ran eich sefydliad cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at PHW.ViolencePreventionUnit@wales.nhs.uk.

Cymerwch ran yn ein hymgynghoriad i lywio dyfodol y gwaith o atal trais: www.cymruhebdrais.com