Nid yw trais gan ddynion yn erbyn menywod yn rhywbeth newydd, ond tynnwyd sylw penodol ato yn dilyn llofruddiaethau trasig Sarah Everard ar 3 Mawrth 2021 a Wenjing Lin ar 5 Mawrth 2021. Yn ddigon priodol, mae'r digwyddiadau hyn wedi ailddechrau sgyrsiau am ddiogelwch menywod a'r lefelau o drais a gyflawnir gan ddynion yn erbyn menywod. Fodd bynnag, anaml y mae'r sgyrsiau yn troi at sut y gellir atal trais yn erbyn menywod.
Mae trais yn erbyn menywod yn broblem ddifrifol iawn yn ein cymdeithas. Nododd UN Women fod 97% o fenywod rhwng 18 a 24 oed yn y DU wedi profi achos o aflonyddu rhywiol mewn man cyhoeddus, ac mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn amcangyfrif bod 20% o fenywod a 4% o ddynion wedi profi rhyw fath o ymosodiad rhywiol ers iddynt droi'n 16 oed. Yn fyd-eang, mae amcangyfrif cyffredinrwydd diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd yn awgrymu y bydd 30% o fenywod yn profi trais domestig a/neu drais rhywiol yn ystod eu hoes.
Yr unig ffordd i ddod â thrais gan ddynion yn erbyn menywod a merched i ben i bob pwrpas yw ei atal rhag digwydd o gwbl. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni fynd i'r afael â'r ffactorau sylfaenol sy'n achosi trais, gan gynnwys anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, a'r normau cymdeithasol a diwylliannol sy'n caniatáu i drais fodoli. Rhaid i ni weithio mewn partneriaeth i addysgu pobl am y ffactorau sy'n achosi trais, ac i ddatblygu ymyriadau sy'n mynd i'r afael â'r ffactorau hyn.
Nid yr hyn y mae rhywun yn ei wisgo, sut, pryd neu ble y maent yn teithio neu sut y maent wedi ymateb i'w troseddwr yn y gorffennol sy'n achosi trais. Yn yr un modd, nid digwyddiadau 'untro' neu ddigwyddiadau ar hap yw trais yn erbyn menywod. Yn hytrach, mae trais gan ddynion yn erbyn menywod yn broblem iechyd y cyhoedd y gellir ei rhagfynegi a'i hatal. Mae problem systemig yn gofyn am ymateb systemau cyfan. Mae hyn yn golygu bod angen i bartneriaid gydweithio, gan gynnwys yr heddlu, iechyd, cyfiawnder cymdeithasol, addysg a'r sector gwirfoddol, ond heb fod yn gyfyngedig i'r sectorau hynny yn unig. Mae trais yn fusnes i bawb, ac mae gan bawb ran i'w chwarae wrth ei atal.
Yng Nghymru, rydym wedi cymryd camau i ymdrin â'r ffactorau hyn sy'n achosi trais ac rydym yn cynnig sut y gallwn ddatblygu dull gweithredu ataliol newydd. Mae'r Glasbrint ar gyfer Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a ddatblygwyd gan Cymorth i Ferched Cymru ac Uned Atal Trais Cymru, yn cydnabod y gellir atal trais yn erbyn menywod ac yn nodi ymagwedd iechyd cyhoeddus at atal i Gymru.
Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i sicrhau bod tystiolaeth o'r 'hyn sy'n gweithio' ym maes atal yn dylanwadu ar y broses o ddiwygio'r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a'i bod yn cynnwys lleisiau pobl â phrofiad o drais yn y cartref, yn y gymuned neu yn y gweithle.
Wrth gwrs, mae llawer o waith i'w wneud o hyd. Ni ellir gwneud newidiadau gwirioneddol a pharhaus dros nos, ond gan weithio gyda'n gilydd a chynnwys pawb yn y sgwrs – dynion, menywod a phlant – credwn o ddifrif y gallwn sicrhau bod Cymru yn lle diogel i bawb.
Nifer bach sy'n cyflawni trais yn erbyn menywod, ond mae pob un ohonom yn gyfrifol am ei atal. Wrth i ni weithio gyda'n gilydd i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben, rydym yn erfyn arnoch i gymryd camau bach i wneud i fenywod deimlo'n fwy diogel, ac i annog eich ffrindiau, eich teulu a'ch anwyliaid i wneud yr un peth. Mewn mannau cyhoeddus:
Gadewch le: peidiwch â loncian neu redeg yn union y tu ôl i rywun. Os oes modd gwneud hynny, croeswch y ffordd.
Dangoswch nad ydych yn fygythiad: Peidiwch â syllu ac edrychwch i gyfeiriad arall.
Sicrhewch eich bod yn amlwg: Gwnewch sŵn, fel siarad ar eich ffôn, er mwyn hysbysu rhywun eich bod yno ac nad ydych yn bwriadu unrhyw niwed.
Cadwch eich sylwadau i chi'ch hun: Nid yw chwibanu neu wneud sylwadau am ymddangosiad dieithryn yn ganmoliaeth a gall godi ofn.
Peidiwch â chadw'n dawel: Os byddwch yn gweld bod rhywun mewn trafferth, dangoswch eich cefnogaeth. Er enghraifft, gofynnwch a ydynt yn iawn. Os nad ydych yn teimlo ei bod yn ddiogel i chi fynd atynt, ffoniwch am help.
Os bydd ffrind, cydweithiwr neu aelod o'ch teulu yn gwneud jôc neu sylw sy'n achosi pryder i chi, am ei fod yn annog neu'n hyrwyddo trais yn erbyn menywod a/neu gasineb at fenywod, heriwch ei ymddygiad. Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi datblygu adnodd defnyddiol, sef Pecyn Cymorth ar gyfer Gwylwyr sy'n cynnwys gair i gall o ran sut i weithredu'n ddiogel a sut i gynorthwyo.
Gwrandewch ar bobl â phrofiad uniongyrchol: Os bydd rhywun yn datgelu profiad o drais i chi, y peth pwysicaf yw i chi eu credu a gwrando.
Os ydych wedi goroesi trais, cofiwch nad eich bai chi yw'r hyn a ddigwyddodd. Nid oes unrhyw beth y gallech fod wedi'i wneud nac y dylech fod wedi'i wneud yn wahanol.
Os ydych yn teimlo y gallwch wneud hynny, ond nad ydych wedi gwneud hynny eto, beth am ystyried siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo am eich profiad. Gallech siarad â ffrind neu aelod o'ch teulu, neu linell gymorth. Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24/7 am gyngor a chymorth am ddim neu i drafod eich opsiynau.