Wythnos diwethaf (21 – 24 Mehefin), gwnaeth Uned Atal Trais Cymru ymuno â phartneriaid i groesawu dros 400 o ddisgyblion ledled Caerdydd i ddigwyddiad atal troseddau'n ymwneud â chyllyll yn Arena Motorpoint.
Roedd y digwyddiad, a ariannwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, yn cynnwys drama ‘Choice of a Lifetime’ a chyfle i ddisgyblion ddysgu mwy am yr hyn sy'n cael ei wneud i atal troseddau'n ymwneud â chyllyll a rhoi eu barn ar sut y gall sefydliadau gefnogi pobl ifanc yn well i fyw bywydau di-drais.
Roedd gan Uned Atal Trais Cymru stondin yn y digwyddiad, lle gwnaethant siarad â disgyblion am y ffordd y gall eu bywydau fod yn wahanol heb drais, a beth maen nhw'n meddwl sydd angen ei wneud i wireddu hyn. Caiff yr adborth o'r digwyddiadau hyn ei ddefnyddio i lywio datblygiad y Fframwaith Strategol ar Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc.
Ymhlith y stondinau eraill roedd rhai Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Childline a Fearless - Gwasanaeth Ieuenctid Crimestoppers.
Mae'r ddrama'n dilyn stori dyn ifanc, Justin, sydd newydd gael ei ryddhau o'r carchar, ar ôl trywanu rhywun pan oedd ond yn bymtheg oed. Mae Justin yn mynd i ymweld â'i hen ysgol ac yn dwyn i gof yr hyn a arweiniodd at y digwyddiad trychinebus gyda'i athro, Mr Nicholson. Mae'r ddau yn trafod sut y gallai Justin fod wedi mynd ar drywydd gwahanol, gyda'r dewisiadau bach niferus a wnaeth arwain at yr un penderfyniad eithaf gan esgor ar ganlyniadau trychinebus – a arweiniodd at anfon Justin i'r carchar a newid bywyd ei ddioddefwr am byth.
Mae'r ddrama'n cwestiynu pam mae pobl ifanc yn penderfynu cario cyllell, ac yn annog y gynulleidfa i ystyried y dewisiadau eraill oedd ar gael i Justin. Mae'n dangos y ffaith na fydd cario cyllell byth yn eich diogelu yn y pen draw – ni fydd yn eich gwneud yn ddiogel a gallai arwain at ganlyniadau trychinebus, gan newid eich bywyd chi a bywydau aelodau eich teulu am byth.
Bydd y ddrama'n cael ei gwerthuso yn ystod yr wythnosau nesaf, gan ddefnyddio adborth gan y plant, yr athrawon a'r gweithwyr addysg proffesiynol.