Bob blwyddyn, mae Uned Atal Trais Cymru yn llunio dogfen friffio ar drais yn erbyn pobl hŷn, gan ddwyn ynghyd ddata amlasiantaethol i ddeall yn well y modd y mae trais yn effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru.
Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol fel rhan o gylch gwaith yr Uned i gefnogi partneriaid yng Nghymru i ddarparu dull iechyd y cyhoedd o atal trais, yn seiliedig ar dystiolaeth.
Mae'r ddogfen friffio ddiweddaraf hon yn cynnwys data o fis Ionawr 2019 i fis Mehefin 2024. Mae'n taflu goleuni ar alwadau am ambiwlans, troseddau trais yn erbyn y person, troseddau cam-drin domestig a thrais rhywiol, derbyniadau i'r ysbyty, nifer y bobl a aeth i adran achosion brys, galwadau i wasanaethau Cymorth i Ferched Cymru a Byw Heb Ofn.
Fel gyda'r ddwy flwyddyn flaenorol, mae'r data yn y ddogfen friffio hon yn dangos cynnydd yn lefelau'r trais yn erbyn pobl hŷn, sy'n peri pryder, a gwelwyd hyn ar draws yr holl setiau data.
Bydd yr adroddiad hwn ar gael ar Borth Atal Trais Cymru, i bob gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio ym maes atal trais.
Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer cyfrif Porth Atal Trais Cymru