Bob blwyddyn, mae uned atal trais cymru yn cyhoeddi adroddiad ar ‘Anffurfio Organau Cenhedlu a Brofwyd gan Fenywod sy'n Byw yng Nghymru, defnyddio'r data a gasglwyd drwy'r llwybr clinigol Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod Cymru Gyfan.
Mae adroddiad 2023/24 bellach ar gael. Nod yr adroddiad blynyddol hwn fydd:
- Rhoi trosolwg o'r lefel bresennol a'r tueddiadau mewn perthynas â rhoi gwybod am achosion o Anffurfio Organau Cenhedlu a brofwyd gan fenywod sy'n byw yng Nghymru.
- Deall pa mor ddefnyddiol yw'r data a gesglir a cheisio nodi unrhyw bwyntiau data ychwanegol y byddai'n ddefnyddiol gwybod amdanynt.
Bydd yr adroddiad ar Borth Atal Trais Cymru.
I weld yr adroddiad, os gwelwch yn dda cliciwch yma i wneud cais am gyfrif Porth.