Mae Uned Atal Trais Cymru wedi sicrhau cyllid i gyflawni gwaith ymchwil hollbwysig ar brofiadau ac ymddygiadau y rhai sy'n dyst i drais a cham-drin a'r arwyddion rhybudd yn ystod COVID-19.
Ers i'r cyfyngiadau symud ddod i rym ar ddechrau 2020, bu rhybuddion llym gan arweinwyr byd-eang am y risg o “bandemig cysgodol” o gam-drin yng nghartrefi pobl*. Yng Nghymru, bu cynnydd o 41% mewn cysylltiadau â'r Llinell Gymorth Byw'n Ddi-ofn ers Ebrill 2020**.
Wrth i lawer o'r boblogaeth barhau i gadw at y canllawiau ar “aros gartref”, mae llai o gyfleoedd i oroeswyr geisio cymorth ac i bobl eraill, megis teulu, ffrindiau, gwirfoddolwyr a chydweithwyr sy'n pryderu, ymyrryd. Fodd bynnag, gan fod llawer o bobl yn byw eu bywyd beunyddiol yn y cartref bellach, mae cyfleoedd newydd i grwpiau gwahanol o bobl, gan gynnwys cymdogion, cydweithwyr mewn cyfarfodydd rhithwir a gyrwyr dosbarthu, sylwi ar yr arwyddion sy'n rhybuddio am gam-drin a chymryd camau diogel.
Bydd yr astudiaeth arloesol, a arweinir gan yr Uned mewn partneriaeth ag Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerwysg ac a gyllidir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ystyried sut y mae profiadau ac ymddygiadau'r rhai sy'n dyst i gam-drin wedi newid ac wedi datblygu yn ystod y cyfyngiadau a gyflwynwyd i reoli COVID-19***. Bydd yr ymchwil yn helpu i ddatblygu rhaglenni hyfforddiant ar ymyrryd i'r rhai sy'n dyst i gam-drin a all fod yn amhrisiadwy wrth roi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar aelodau'r cyhoedd i ymyrryd yn ddiogel pan fyddant yn dyst i gam-drin neu'n pryderu amdano.
“Mae atal cam-drin domestig yn fater i bawb ac efallai y bydd llawer o bobl yn y sefyllfa o fod yn “dyst” am y tro cyntaf.
“Gall fod yn anodd iawn gwybod beth i'w wneud yn y sefyllfa hon ac mae'n bwysig ein bod yn deall sut mae'r pandemig wedi effeithio ar yr hyn a all fod yn ymyriad sy'n newid bywyd i oroeswyr trais a cham-drin domestig.
“Ar adeg pan fyddwn yn gweld ein teulu a'n ffrindiau yn llai aml nag yr hoffem, gwaetha'r modd, mae'n hanfodol bod mwy o bobl yn gwybod sut i ymyrryd yn ddiogel mewn achosion o gam-drin er mwyn sicrhau bod cymaint o gymorth â phosibl ar gael i bobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau.”
Jonathan Drake, Cyfarwyddwr Uned Atal Trais Cymru
“Mae hyfforddiant i bobl sy'n dyst i gam-drin yn addysgu pobl i adnabod arwyddion cynnar o gam-drin a bod yn hyderus i gymryd camau yn eu cymunedau mewn ffordd ddiogel er mwyn atal rhagor o gam-drin. Gwyddom o'n hymchwil i ymyriadau gan bobl sy'n dyst iddo y gall unrhyw un gymryd camau mewn cysylltiad â cham-drin domestig os caiff yr hyfforddiant cywir, a bod pobl sydd wedi cael hyfforddiant yn defnyddio eu sgiliau newydd ym mhob rhan o'u bywydau.
“Mae'r astudiaeth ymchwil newydd hon yn hanfodol er mwyn deall mwy am y bobl sy'n dod i gysylltiad yn ffisegol ac ar-lein â dioddefwyr o dan amodau cymdeithasol newydd y cyfyngiadau symud a pha gamau y maent yn eu cymryd. Mae hyn yn golygu yn y dyfodol y gallwn annog pobl sydd newydd ddod yn dyst i gam-drin i weithredu a chynnig ffyrdd o'u cefnogi, a thrwy hynny helpu cymunedau a chymdeithas i atal cam-drin o dan amodau'r cyfyngiadau symud a thu hwnt.”
Dr Rachel Fenton, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerwysg
"Wrth siarad â goroeswyr, mae Cymorth i Ferched Cymru yn ymwybodol mai gyda pherson y mae'r unigolyn yn ei adnabod yn bersonol y bydd yn datgelu profiad o gam-drin gyntaf. Mae'n hollbwysig ei fod yn derbyn ymateb cadarnhaol ac empathetig i'w alluogi i dderbyn y cymorth sydd ei angen arno. Ymyriadau gan bobl agos sy'n datgelu problemau cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn cymunedau; maent yn codi ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth arbenigol hanfodol ac yn sicrhau y caiff goroeswyr bob amser ymateb defnyddiol bob tro, ni waeth ble na phryd y byddant yn rhannu eu profiadau.
Yn sgil y cyfnodau clo a'r gofyn i gadw pellter cymdeithasol eleni, lle mae goroeswyr wedi'u hynysu fwy nag erioed a gyda llai o gymorth ar gael, mae ymgysylltu â chymunedau wedi bod yn hollbwysig i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Roedd Cymorth i Ferched Cymru yn gallu addasu a rhoi'r hyn a ddysgwyd o'n cyfraniad at Fenter y Rhai sy'n Bresennol a Chynllun ‘‘gofyn i mi’’ Newid sy'n Para, er mwyn parhau i roi cyngor ac arweiniad i gymunedau ledled Cymru. Ar ôl cyhoeddi ein pecyn adnoddau Rhai sy'n Bresennol, Sefyll gyda Goroeswyr, cynyddodd nifer y galwadau i linell gymorth Byw Heb Ofn gan unigolion â phryderon yn sylweddol – rydym yn croesawu'r buddsoddiad hwn er mwyn gwerthuso'r newidiadau i ddull gweithredu y rhai a oedd yn bresennol yn ystod COVID 19 ac yn credu y gall yr hyn a ddysgwyd helpu pob un ohonom i greu newid sy'n para.’’
Sara Kirkpatrick, Prif Swyddog Gweithredol, Cymorth i Ferched Cymru
“Mae'r mesurau iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig â phandemig y coronafeirws, gan gynnwys cyfyngiadau symud a chadw pellter cymdeithasol, yn hanfodol er mwyn rheoli'r feirws. Fodd bynnag, i rai pobl, mae hyn wedi golygu wynebu mwy o niwed a cham-drin ond gyda llai o fynediad at wasanaethau cymorth a rhyngweithio cymdeithasol.
“Nid oes fawr ddim ymchwil i brofiadau pobl sy'n dyst i gam-drin domestig yn ystod pandemig COVID-19 felly bydd yr astudiaeth hon yn rhoi arweiniad amserol i lywio gwaith polisi ac atal yng Nghymru a thu hwnt.”
Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru
*Lansiodd UN Women, sef endid yn y Cenhedloedd Unedig sy'n hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau a grymuso menywod, ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ym mis Mai, a oedd yn canolbwyntio ar y cynnydd byd-eang mewn trais domestig yn ystod argyfwng iechyd COVID-19 – https://www.unwomen.org/en/new...
**Data a ddarparwyd gan Cymorth i Ferched Cymru i Uned Atal Trais Cymru fel rhan o'i adroddiad monitro trais misol. Mae data a ddarperir gan Cymorth i Ferched Cymru yn seiliedig ar ystadegau wythnosol sy'n cael eu coladu drwy feddalwedd casglu data ynglŷn â chysylltiadau â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn drwy alwadau, gwe-sgyrsiau, negeseuon testun ac e-bost. Bwriedir llunio dadansoddiad o'r cysylltiadau yng nghyd-destun effaith pandemig y coronafeirws presennol ar sut a phryd mae pobl yn cysylltu â'r Llinell Gymorth, a chaiff ei roi i bobl â diddordeb yn ddidwyll, yn seiliedig ar y data sydd ar gael ar adeg cyhoeddi. Dylid nodi y gall hyn newid os bydd gwybodaeth ychwanegol ar gael, ac am ei bod yn seiliedig ar ddata wythnosol, efallai na fydd yn gwbl gyson ag adroddiadau misol na chwarterol.
***Fel rhan o'r astudiaeth, bydd yr Uned yn cynnal arolwg o bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Bydd yr arolwg yn holi cyfranogwyr am eu profiadau o fod yn dyst i gam-drin yn ystod pandemig COVID-19. Caiff yr arolwg ei gynnal yn y Flwyddyn Newydd a gall pobl gofrestru i gymryd rhan drwy fynd i www.violencepreventionunit.com... a chwblhau ffurflen gyswllt.
Mae cymorth ar gael i bobl sy'n cael eu cam-drin. Os bydd angen help ar rywun ar unwaith, gellir deialu 999 a bydd yr heddlu yn ymateb. Os bydd angen help distaw ar rywun, gellir deialu 999 ac yna deialu 55 pan fydd y sawl sy'n ateb yr alwad yn dweud hynny. Os nad yw'n achos brys, gellir rhoi gwybod i'r heddlu drwy ffonio 101.
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn hefyd ar gael bob awr o'r dydd a nos i bobl sydd wedi cael profiad o gam-drin domestig neu sy'n cael eu cam-drin neu bobl sy'n pryderu am ffrind neu berthynas:
Llinell Gymorth: 0808 80 10 800
Tecstiwch: 078600 77333
Gwasanaeth gwe-sgwrs: llyw.cymru/byw-heb-ofn
Rhagor o wybodaeth: https://llyw.cymru/byw-heb-ofn
Mae Llinell Ffôn Respect yn cynnig help i gyflawnwyr cam-drin domestig sydd am newid. Mae'r llinell gymorth gyfrinachol ar gael ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-8pm:
Llinell Gymorth: 0808 8024040
Rhagor o wybodaeth: https://respectphoneline.org.u...