Jump to content

Gwaith Ymchwil yr Uned Atal Trais wedi'i gyhoeddi yn Journal of Community Safety and Well-Being (CSWB)!

2 boster mewn porffor (ochr yn ochr) gyda thestun Newyddion cyffrous!!! Cyhoeddwyd ein hymchwil, 'Cymru Heb Drais: Fframwaith ar gyfer atal trais ymhlith plant a phobl ifanc,' yn rhifyn mis Medi o'r Journal of Community Safety and Well-Being (CSWB). Newyddion cyffrous!!! Cyhoeddwyd ein hymchwil ar 'atal achosion o aflonyddu rhywiol drwy ymgyrch i annog ymatebion cymdeithasol cadarnhaol gan y rhai sy'n bresennol, sef #DiogelDweud', yn rhifyn mis Medi o'r Journal of Community of Safety and Well-Being (CSWB)

Cafodd dwy erthygl yr Uned Atal Trais eu cyhoeddi yn rhifyn mis Medi o'r Journal of Community Safety and Well-Being (CSWB):

  • ‘Atal achosion o aflonyddu rhywiol drwy ymgyrch i annog ymatebion cymdeithasol cadarnhaol gan y rhai sy'n bresennol, sef #DiogelDweud’ gan Alex Walker, Emma R. Barton, Bryony Parry and Lara C. Snowdon
  • ‘Cymru Heb Drais: Fframwaith ar gyfer atal trais ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru’ gan Emma R. Barton, Lara C. Snowdon, Bryony Parry and Alex Walker

Cymharodd erthygl gwaith ymchwil #DiogelDweud yr effaith y cafodd Cam Un a Cham Dau ar ymgyrch #DiogelDweud a'r adborth ar yr ymgyrch. Roedd Cam Un yn ymgyrch gyffredinol i weithredu drwy ddull sy'n annog ymatebion cymdeithasol cadarnhaol gan y rhai sy'n bresennol, a chafodd Cam Dau ei gyflwyno yn Abertawe ac yn targedu dynion yn benodol. Mae gwaith ymchwil wedi dangos mai menywod sy'n dioddef aflonyddu rhywiol gan amlaf a dynion yw'r rhai sy'n cyflawni trais o'r fath gan amlaf. Felly, nod yr ymgyrch oedd cyfeirio at yr ymddygiadau a'r credoau problematig, a rhoi ymwybyddiaeth i'r rhai sy'n bresennol o sut i weithredu ar osgoi digwyddiadau aflonyddu rhywiol, ymddygiad ac agweddau problematig, a gwybodaeth amdanynt yn yr economi liw nos. Canfu gwerthusiadau'r ymgyrch ei fod wedi cael argraff sylweddol ar y cyhoedd, ac wedi rhoi hyder iddynt weithredu fel ‘unigolion presennol sy'n ymateb yn gadarnhaol’. Fodd bynnag, roedd targedu dynion yn benodol yn Cam Dau wedi achosi ymateb negyddol ar gyfryngau cymdeithasol. Felly, mae'r gwaith ymchwil wedi canfod bod angen i'r negeseuon sicrhau nad yw dynion a bechgyn yn cael eu cyhuddo o fod yn gyflawnwyr, a dylid canolbwyntio ar sut i ddal sylw dynion a bechgyn mewn mentrau o'r fath a chydnabod y gall dynion hefyd ddioddef aflonyddu rhywiol.


Mae Fframwaith Cymru Heb Drais yn strategaeth wedi'i llywio gan dystiolaeth ac wedi'i chynhyrchu ar y cyd, ac yn seiliedig ar safbwyntiau mwy na 1,000 o blant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru. Mae'n canolbwyntio'n benodol ar atal trais ymhlith plant a phobl ifanc gan fod gwaith ymchwil wedi dangos fod demograffeg plant a phobl ifanc yn wynebu risg uwch o brofi sawl math o drais, a all arwain at oblygiadau negyddol hirdymor ar eu llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Nodwyd bod dulliau atal trais yn fwy effeithiol ymhlith plant a phobl ifanc, ac mae tystiolaeth bod atal trais o oedran ifanc wedi arwain at effeithiau cadarnhaol ar iechyd a llesiant. Mae'r Fframwaith wedi cynyddu lleisiau, profiadau a phryderon plant a phobl ifanc yr effeithiwyd arnynt gan drais o'r fath, ac mae hefyd yn gosod naw strategaeth sy'n gweithio o ran atal trais, a ddewisiwyd drwy waith ymchwil ac ymgynghori helaeth â phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru.

Darllenwch yr erthyglau:

Preventing sexual harassment through a prosocial bystander campaign: It's #SafeToSay: Mae'r erthygl hon yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'r Gynhadledd Ewropeaidd Gyntaf ar Drefniadau Gorfodi'r Gyfraith ac Iechyd Cyhoeddus (LEPH) a gynhaliwyd yn Umea, Sweden ym mis Mai 2023. | Journal of Community Safety and Well-Being (journalcswb.ca)

Wales without violence: A framework for preventing violence among children and young people: Mae'r erthygl hon yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'r Gynhadledd Ewropeaidd Gyntaf ar Drefniadau Gorfodi'r Gyfraith ac Iechyd Cyhoeddus (LEPH) a gynhaliwyd yn Umea, Sweden ym mis Mai 2023. | Journal of Community Safety and Well-Being (journalcswb.ca)