Ymunodd gweithwyr proffesiynol ym maes atal trais o Gymru a Lloegr ag Uned Atal Trais Cymru am weminar i drafod yr effaith y mae mesurau ymateb i COVID-19 wedi'i chael ar drais.
Mae arbenigwyr o bedwar ban byd wedi rhybuddio am ganlyniadau andwyol cyfnod clo COVID-19 ar drais yn y cartref, a chafodd ei ddisgrifio gan y Cenhedloedd Unedig fel pandemig cysgodol. Ymdriniodd siaradwyr o'r Uned a Cymorth i Ferched Cymru â'r pryder hwn a nodwyd bod sefydliadau yng Nghymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i atal trais ac amddiffyn pobl agored i niwed yn ystod y pandemig.
Drwy gydol cyfyngiadau'r cyfnod clo, mae Uned Atal Trais Cymru wedi bod yn monitro lefelau trais yng Nghymru drwy gasglu a dadansoddi data gan bartneriaid o bob rhan o Gymru a Lloegr. Mae'r data'n dangos bod mathau “cudd” o drais, megis cam-drin domestig a cham-drin ar-lein, wedi cynyddu yn ystod y cyfnod clo, a bod achosion o drais cyhoeddus wedi lleihau'n sylweddol.
Dywedodd Lara Snowdon, Arweinydd Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Uned Atal Trais Cymru: “Drwy rannu'r gwaith yng Nghymru, rydym yn gobeithio y gallwn helpu i ddiffinio rôl iechyd y cyhoedd mewn perthynas ag atal trais yn well, pwysleisio pwysigrwydd cydweithio rhwng timau amlasiantaethol er mwyn atal trais, a thynnu sylw at bwysigrwydd monitro effaith cyfyngiadau COVID-19 ar drais.
“Bydd hyn yn creu system fwy cadarn sy'n gallu atal trais yn ystod y pandemig ac yn y dyfodol.”
Mae'r Journal of Community Safety and Well-being wedi cyhoeddi papur gan Uned Atal Trais Cymru ar y ffordd rydym wedi defnyddio dull iechyd y cyhoedd yn ystod pandemig COVID-19. Gallwch ddarllen yr erthygl yma.