Neges gan Jon Drake, Cyfarwyddwr, Uned Atal Trais Cymru:
Er mwyn llywio'r gwaith parhaus i ddatblygu Uned Atal Trais Cymru, yn gynharach eleni gwnaethom gomisiynu Athrofa Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol John Moore, Lerpwl, i gynnal ein Gwerthusiad cyntaf.
Rwy'n falch o rannu Gwerthusiad Blwyddyn Un o Uned Atal Trais Cymru. Fel y gwyddoch rwy'n siŵr, mae gwerthuso yn un o brif egwyddorion dull iechyd y cyhoedd ac mae'n hollbwysig er mwyn sicrhau y caiff pobl yng Nghymru y budd gorau posibl o'n gwaith.
Fel rhan o'r Gwerthusiad, cafodd yr Uned ei mesur yn erbyn pum egwyddor; cydweithredu; cyd-gynhyrchu; cydweithio ar rannu data a chudd-wybodaeth; datblygu gwrthnaratif; a chonsensws y gymuned ar ffurf cyfweliadau ag aelodau a rhanddeiliaid, digwyddiadau ymgysylltu ac adolygu dogfennau Uned Atal Trais Cymru.
Dangosodd y gwerthusiad fod Uned Atal Trais Cymru wedi dechrau creu newidiadau ar lefel system mewn perthynas ag atal trais, gan annog sefydliadau i ganolbwyntio ar atal trais fel mater yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Mae hyn yn dangos bod ein gwaith ni a'n partneriaid yn dechrau trawsnewid y dirwedd atal trais yng Nghymru.
Yn bwysig iawn, roedd y Gwerthusiad hefyd yn nodi argymhellion allweddol ar sut y gallwn adeiladu ar y flwyddyn gyntaf, lwyddiannus. Byddwn yn cyflwyno'r argymhellion hyn i'r partneriaid perthnasol yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod, er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio dull amlasiantaethol, system gyfan i geisio atal trais yng Nghymru.
Byddwch hefyd yn gallu lawrlwytho'r Gwerthusiad a'r Crynodeb Gweithredol isod. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes unrhyw gwestiynau gennych neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr Uned.
Mae VPU Cymru wedi dechrau creu newidiadau ar lefel system o ran atal trais, gan annog sefydliadau i ganolbwyntio ar atal trais fel mater iechyd cyhoeddus. O ganlyniad, dylai parhau â'r gwaith hwn barhau i adeiladu ar lwyddiannau cynnar o ran atal trais yng Nghymru.
Public Health Institute, Liverpool John Moores University Evaluation of the Wales Violence Prevention Unit
Mae cydweithredu yn hanfodol os ydym am lwyddo i leihau ac atal trais. Mae pwysigrwydd ein dull yn berffaith amlwg drwy sefydlu'r Uned Atal Trais gan Gomisiynwyr a Phrif Gwnstabliaid yng Nghymru, gan adeiladu ar 'Fodel Caerdydd' sydd wedi darparu model ar gyfer lleihau trais ers 25 mlynedd, a hynny drwy ddeall patrymau ac achosion yn hytrach nag aros i niwed ddigwydd ac ymateb i ddigwyddiadau.
Rydym wedi mynd i'r afael â menter lleihau trais y Swyddfa Gartref yn llawn brwdfrydedd, er mwyn canolbwyntio ar drechu trais mewn ardaloedd allweddol yn Ne Cymru, yn enwedig Caerdydd ac Abertawe. Mae'r cam gweithredu â ffocws hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac rwyf yn croesawu'r Gwerthusiad Blwyddyn fel ardystiad o'r dull cryf o weithio mewn partneriaeth, yr arloesedd, a'r dull gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth sydd eisoes yn nodweddion sefydledig yn Uned Atal Trais Cymru.
Bydd yr Uned yn parhau i ddatblygu gweithgareddau ac ymyriadau wedi’u targedu ledled Cymru, lle deellir y cysylltiadau rhwng pob math o drais. Mae problem trais a cham-drin domestig yn aml yng nghefndir hyglwyfedd a thrais ar y stryd, a gwelwyd ei fod yn bwydo i droseddau cyfundrefnol. Mae cyswllt rhwng y materion hyn i gyd, sy'n ei gwneud yn hanfodol bod gennym ymateb cydgysylltiedig.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael