Mae gwerthusiad newydd o ddull system gyfan Uned Atal Trais Cymru o atal trais yn darparu gwersi hanfodol ar gyfer datblygu partneriaethau atal trais lleol.
Gan ddefnyddio dwy astudiaeth achos yn Ne Cymru, mae'r gwerthusiad yn archwilio sut mae'r Uned Atal Trais wedi ceisio rhoi gweithgarwch atal trais ar waith ar lefel lleol er mwyn diwallu anghenion lleol wrth adeiladu strwythurau sy'n galluogi'r gwaith hwn i ddylanwadu ar y system ehangach.
Roedd y gwerthusiad, a gynhaliwyd gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol John Moores Lerpwl, yng Nghaerdydd ac Abertawe, yn cynnwys cyfweliadau gyda phobl a oedd yn ymwneud â rhoi'r ymyriadau a ariennir gan yr Uned Atal Trais ar waith, gan gynnwys darparwyr gwasanaethau a staff yr Uned Atal Trais, a phobl a oedd wedi cael eu cefnogi gan yr ymyriadau hyn, yn ogystal ag adolygu polisïau allweddol, dogfennau gweithredol a llenyddiaeth academaidd.
Dengys canfyddiadau werthusiadau Caerdydd ac Abertawe fod angen buddsoddiad tymor hir er mwyn creu sefydlogrwydd yn y gwasanaethau a chysondeb o ran gofal. At hynny, mae'r gwerthusiadau'n pwysleisio pwysigrwydd cyfuno'r sail dystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol â dealltwriaeth ac arbenigedd lleol, drwy ymgysylltu, cymryd rhan a chynhyrchu ar y cyd er mwyn datblygu datrysiadau sy'n gweithio i'r rhai sydd eu hangen.
Mae'r gwerthusiad yn cynnwys dwy ran, gydag un gwerthusiad yn canolbwyntio ar y dull system gyfan yn Abertawe, ac un yng Nghaerdydd, sy'n gyfanswm o bedwar adroddiad llawn. Er mwyn cefnogi partneriaid i dynnu o'r gwerthusiadau hyn, gwnaeth yr Uned Atal Trais grynhoi'r prif ganfyddiadau ac argymhellion mewn un adroddiad crynhoi.
Cliciwch yma i lawrlwytho'r Adroddiad Crynhoi [PDF].
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiadau llawn ar wefan yr Uned Atal Trais.
Mae'r broses o werthuso yn elfen hanfodol o roi dull iechyd y cyhoedd o atal trais ar waith. Er mwyn cefnogi partneriaid i gynnal neu gomisiynu gwerthusiad o'u gweithgarwch atal trais, mae Uned Atal Trais Cymru wedi datblygu'r Pecyn Adnoddau Gwerthuso Atal Trais er mwyn cefnogi partneriaid i ymgorffori'r broses o werthuso i mewn i'w harferion.
Cliciwch yma i weld y Pecyn Adnoddau Gwerthuso Atal Trais ar wefan yr Uned Atal Trais.