Jump to content

GWERTHUSIAD: System Gwyliadwriaeth a Dadansoddi Trais Cymru

Delwedd yn dangos testun: 'Gwerthusiad: System Gwyliadwriaeth a Dadansoddi Trais Cymru'

Mae Uned Atal Trais Cymru wedi cyhoeddi'r gwerthusiad annibynnol o System Gwyliadwriaeth a Dadansoddi Trais Cymru.

Sefydlwyd System Gwyliadwriaeth Trais Cymru yn 2014, gan ganolbwyntio ar Dde Cymru i ddechrau, gyda'r nod o gefnogi'r gwaith o atal trais drwy ddatblygu system gwyliadwriaeth i goladu, dadansoddi a rhannu data rhwng gwahanol sectorau.

Mae'r Uned wedi bod yn gyfrifol am y System ers 2019, a'r nod yw ei hymestyn ledled Cymru. Dyma'r gwerthusiad cyntaf o System Gwyliadwriaeth Trais Cymru, ac fe'i lluniwyd gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Prifysgol John Moores Lerpwl. Bydd yn helpu'r Uned i ddeall anghenion ein partneriaid yn well, yn ogystal â rhwystrau presennol/posibl a ffactorau hwyluso wrth i ni barhau i ddatblygu'r system.

“Mae cydweithio yn hanfodol er mwyn rhoi diwedd ar drais yng Nghymru. Er mwyn cefnogi ein cenhadaeth, un o nodau allweddol System Gwyliadwriaeth Trais Cymru, gan gynnwys ein Hadroddiadau Monitro Trais, yw hwyluso a hyrwyddo dull iechyd y cyhoedd amlasiantaethol o atal trais.

“Mae'r gwerthusiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos bod y System yn cyflawni'r nod hwn, gyda 90% o'r bobl a ymatebodd i'r arolwg yn cytuno bod yr Uned, drwy ein Hadroddiadau Monitro Trais, yn hwyluso prosesau rhannu data amlasiantaethol at ddibenion atal trais ledled Cymru.

“Yn gyffredinol, mae'r gwerthusiad wedi dangos bod y System yn hanfodol wrth roi darlun cywir o drais yng Nghymru, a'i bod yn gallu helpu partneriaid i ddatblygu strategaethau ac ymyriadau wedi'u targedu i atal trais.

“Ein cenhadaeth nawr, wrth i ni symud ymlaen, yw gwella System Gwyliadwriaeth Trais Cymru er mwyn sicrhau y bydd yn cefnogi ein partneriaid yn well. Rydym yn gwneud hyn drwy ddatblygu system gwyliadwriaeth ryngweithiol, amser real a fydd ar gael i'n holl bartneriaid. Yr Hwb Cudd-wybodaeth am Drais ar gyfer Atal fydd y cyntaf o'i fath yng Nghymru, ac mae'n ddatblygiad pwysig sy'n sicrhau bod partneriaid yn gallu nodi a dadansoddi data amlasiantaethol yn annibynnol er mwyn eu cefnogi ac i lywio eu gwaith eu hunain.”

Jon Drake, Cyfarwyddwr, Uned Atal Trais Cymru

Lawrlwytho'r Adroddiad