Mae Prifysgol Liverpool John Moores (LJMU) yn cynnal astudiaeth ymchwil i werthuso rhaglen waith Uned Atal Trais Cymru, yn ogystal ag adroddiadau monitro'r uned. Bydd yr Uned Atal Trais yn defnyddio canlyniadau'r astudiaeth hon i lywio'r gwaith o ddatblygu ein rhaglen waith a'i rhoi ar waith yn y dyfodol.
Fel aelod o restr bostio yr Uned Atal Trais/aelod cofrestredig sy'n derbyn Adroddiadau Monitro Trais, rydym yn cysylltu â chi ar ran y tîm gwerthuso i'ch gwahodd i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Bydd hyn yn cynnwys cwblhau arolwg ar-lein a fydd yn archwilio eich dealltwriaeth, eich canfyddiadau, a'ch defnydd o adroddiadau monitro trais Uned Atal Trais Cymru.
Cyn i chi benderfynu a ydych am gymryd rhan, mae'n bwysig eich bod yn deall y rheswm dros gynnal yr astudiaeth a'r hyn y bydd yn ei olygu. Treuliwch amser yn darllen y daflen wybodaeth i gyfranogwyr atodedig, a thrafodwch hi ag eraill os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os oes unrhyw beth yn aneglur, mae croeso i chi gysylltu â mi neu'r tîm gwerthuso. Fe'ch cynghorir i gadw copi electronig o'r daflen wybodaeth i gyfranogwyr.
Cymerwch eich amser wrth benderfynu a ydych am gymryd rhan yn yr astudiaeth. Os byddwch yn hapus i gymryd rhan ynddi, cliciwch yma i gael mynediad i'r arolwg.
Bydd pob ymateb i'r holiaduron yn ddienw ac yn cael ei drin yn gyfrinachol, ac ni fydd eich enw'n ymddangos yng nghanfyddiadau'r gwerthusiad. Ni fydd Uned Atal Trais Cymru yn gweld eich ymatebion i'r arolwg.