Jump to content

Asesiad o'r Effaith ar Iechyd: Effaith pandemig COVID-19 ar fenywod, cyflogaeth ac anghydraddoldebau iechyd

Cafodd pandemig COVID-19 effaith sylweddol ar gymdeithas, gan gynnwys ar iechyd pobl a'r economi, gyda rhai pobl yn profi effaith fwy negyddol nag eraill. Canfu'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd diweddar gan Uned Gymorth Asesu'r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) fod y pandemig wedi effeithio mwy ar fenywod o oedran gweithio sydd yn y gweithlu.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at sut roedd y pandemig wedi dwysáu anghydraddoldebau i fenywod o grwpiau penodol, fel y rhai y mae trais a chamdriniaeth yn effeithio arnynt, y rhai sydd â chyflyrau cronig a/neu anableddau, gofalwyr benywaidd, unig famau, menywod iau a hŷn, menywod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, a'r rheini sydd ar gyflogau isel.

Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn dangos sut roedd y cyfyngiadau a roddwyd ar waith i arafu lledaeniad COVID-19 wedi effeithio ar broblemau iechyd meddwl a chorfforol ac wedi cyfrannu at fylchau mewn addysg, anawsterau cyflogaeth, colli cyflogaeth ac ansicrwydd ariannol. Mae'r asesiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod menywod wedi wynebu risg uwch o drais domestig oherwydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol a chwarantin. Gwelodd yr elusen menywod, Refuge, gynnydd o 60% yn nifer y galwadau misol rhwng mis Ebrill 2020 a mis Chwefror 2021, o gymharu â dechrau 2020. Nododd Heddluoedd Cymru a Lloegr gynnydd o 6% yn nifer y troseddau'n ymwneud â cham-drin domestig ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021. O'r 2.3 miliwn o bobl y gwyddom eu bod wedi profi camdriniaeth ddomestig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, roedd tua 69.6% ohonynt yn fenywod yn ôl pob tebyg.

Inffograffic

Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn argymell camau gweithredu a allai liniaru effaith y pandemig, gyda ffocws ar y rôl bwysig sydd gan gyflogwyr i'w chwarae wrth sicrhau na fydd anghydraddoldebau presennol yn effeithio mwy ar bobl. Mae'r argymhellion hyn yn cynnwys gwell mynediad i fenywod at wasanaethau iechyd meddwl a chorfforol ynghyd â systemau lles a chymorth eraill, yn ogystal â darparu a hysbysebu prosesau i roi gwybod am faterion yn ddiogel, ac ystyried y pwysau ychwanegol ar fenywod sy'n gweithio yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus drwy gynnig oriau a therfynau amser hyblyg iddynt.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am effaith y pandemig ar iechyd meddwl a chorfforol menywod ac ar ffactorau economaidd-gymdeithasol: Effaith Pandemig COVID-19 ar Fenywod, Cyflogaeth ac Anghydraddoldebau Iechyd - Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (phwwhocc.co.uk/cy)