Jump to content

Helpwch ni i fapio ymyriadau

Image displays Wales Violence Prevention Unit logo

Nod Uned Atal Trais Cymru yw nodi achosion sylfaenol trais a darparu ymateb cydgysylltiedig i atal trais drwy ymyrryd yn gynnar a chymryd camau i ddargyfeirio pobl oddi wrth drais.

Gyda'n partneriaid, rydym yn mapio ymyriadau a gwasanaethau arbenigol sydd ar gael yng Nghaerdydd ac Abertawe* ar hyn o bryd er mwyn mynd i'r afael â thrais difrifol a lliniaru'r ffactorau risg i bobl o bob oedran, ar gyfer dioddefwyr yn ogystal â chyflawnwyr trais.

Os ydych yn ddarparwr gwasanaethau yng Nghaerdydd neu Abertawe, byddem yn ddiolchgar pe gallech ymateb i'r cwestiynau isod mewn perthynas ag unrhyw ymyriadau sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd sy'n cyfrannu at y gwaith o ymdrin â thrais difrifol:

1. Enw a nod y sefydliad

2. Pwynt cyswllt perthnasol (gan gynnwys cyfeiriad e-bost)

3. Amlinelliad o'r ymyriadau a ddarperir gyda phwyslais penodol ar drais difrifol ac elfennau cysylltiedig sy'n gwneud pobl yn agored i niwed; gan gynnwys nod yr ymyriad, y gweithgaredd, y garfan a dargedir a'r ardal ddaearyddol a gwmpesir

4. Ffynhonnell gyllido ac am ba hyd y bydd y cyllid para

5. Meini prawf atgyfeirio a llwybrau atgyfeirio presennol

6. Cysylltiadau presennol â phartneriaethau lleol

7. P'un a yw'r ymyriad wedi cael ei werthuso neu a oes ganddo sylfaen dystiolaeth (e.e. damcaniaeth newid/model rhesymeg ac ati).

Anfonwch eich ymatebion drwy e-bost at Gemma Woolfe, Cydgysylltydd Atal Trais Difrifol, erbyn diwedd y dydd, ddydd Gwener 3 Gorffennaf: gemma.woolfe@south-wales.pnn.police.uk

Gall ymyriadau gynnwys gweithgareddau megis rhaglenni magu plant, gwaith ieuenctid datgysylltiedig, sesiynau addysg ac ymwybyddiaeth, rhaglenni ataliol wedi'u targedu, sesiynau sy'n seiliedig ar weithgaredd, a gallant ddod o dan un neu fwy o'r categorïau canlynol:

Cynradd

Atal trais cyn iddo ddigwydd

Eilaidd

Nodi unigolion sy'n ‘wynebu risg’ o ymwneud â thrais difrifol, neu ymyrryd yn gynharach ar ôl i'r trais ddigwydd er mwyn atal niwed pellach ac achosion mynych o drais

Trydyddol

Ymyriadau ar gyfer unigolion sydd eisoes yn gysylltiedig â thrais difrifol, er mwyn eu hannog i ymatal rhag troseddu ymhellach a symud oddi wrth ffordd droseddol o fyw.

* Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar Gaerdydd ac Abertawe yn y lle cyntaf, mewn ymateb i'r ffaith eu bod wedi'u nodi fel mannau problemus yn ein hasesiad o anghenion strategol a ddatblygwyd yn ddiweddar mewn perthynas â thrais difrifol ymhlith pobl ifanc yn Ne Cymru.