Jump to content

Mae'r Swyddfa Gartref Wedi Dyfarnu Arian i Uned Atal Trais Cymru Dros Gyfnod o 3 Blynedd

Datganiad gan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael

Yma yng Nghymru, mae ein dull o atal trais yn canolbwyntio ar yr egwyddor bod cydweithredu yn hanfodol i lwyddiant, ynghyd â diben clir ac uchelgais a rennir. Mae'r dull hwn i'w weld yn glir yn Uned Atal Trais Cymru, gyda Chomisiynwyr a Phrif Gwnstabliaid yng Nghymru yn cydweithio, gyda chefnogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd ag Awdurdodau Lleol, sefydliadau'r Trydydd Sector a Llywodraeth Cymru.

Gyda'n gilydd, rydym yn canolbwyntio ar atal niwed – dull iechyd y cyhoedd o ymdrin ag achosion sylfaenol trais – ac mae'r ffordd y mae'r Uned yn anelu at ddeall troseddau sy'n gysylltiedig â chyllyll ac achosion o gamfanteisio ac ymdrin â nhw yn galonogol iawn wrth sicrhau y gall pobl yng Nghymru fyw bywyd heb drais difrifol ac heb achosion o drais a cham-drin domestig sy'n bla ar bob cymuned.

Rwy'n croesawu'r cyllid am dair blynedd ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Gartref, gan ei fod yn rhoi cyfle i ni barhau â'r gwaith hanfodol hwn, gan anelu at atal pob math o drais yn ein cymunedau yma yng Nghymru. Mae'r cyllid yn brawf o effaith yr Uned Atal Trais sy'n dangos yn amlwg beth y gellir ei gyflawni drwy gamau gweithredu wedi'u targedu, trefniadau cadarn ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, arloesedd a dull gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae ein Huned ac Unedau Lleihau Trais yn Lloegr yn rhannu'r gwersi a ddysgir ac yn ystod y 3 blynedd nesaf, byddwn yn adeiladu ar y sylfeini cadarn a sefydlwyd ac yn datblygu ymhellach ein dealltwriaeth a'n hymateb i drais yma yng Nghymru er mwyn cefnogi cymunedau diogel, hyderus a gwydn.

Datganiad gan Jon Drake, Cyfarwyddwr Uned Atal Trais Cymru:

Mae'r tair blynedd ychwanegol o gyllid gan y Swyddfa Gartref i Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn darparu cymorth hollbwysig tuag at ein cenhadaeth i atal trais yng Nghymru. Ond yn bwysicach na hynny efallai yw'r ffaith bod y cyllid hwn wedi'i ddyfarnu am fod tystiolaeth glir bod y dull system gyfan o fynd i'r afael â throseddau treisgar yn gweithio. Yn benodol, mae data Llywodraeth y DU yn nodi y cafodd 49,000 o droseddau treisgar eu hatal yng Nghymru a Lloegr drwy waith Unedau Lleihau Trais a mentrau plismona ychwanegol mewn mannau lle mae problemau.

Rydym eisoes yn gweld newidiadau yn y ffordd y caiff trais ei ystyried gan ein partneriaid yng Nghymru a'r ffordd y maent yn ymateb iddo. Nododd ein Gwerthusiad ym Mlwyddyn Un fod yr Uned Atal Trais wedi dechrau creu newidiadau ar lefel system mewn atal trais, gan annog sefydliadau i ganolbwyntio ar atal trais fel mater iechyd y cyhoedd. Mae ein Gwerthusiad ym Mlwyddyn Dau yn dangos sut rydym wedi adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy ddylanwadu nawr ar newid cynaliadwy drwy ymgorffori dull iechyd y cyhoedd o atal trais ym mhob rhan o'r system.

Fodd bynnag, mae llawer i'w wneud o hyd, gyda thrais yn amlwg iawn ym mhob cymuned yng Nghymru. Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i ddal ati i gefnogi pobl ifanc yn y de y mae trais wedi effeithio arnynt drwy ein hymyriadau presennol, a bydd yn ein galluogi i gomisiynu rhagor o ymyriadau i ddiogelu'r rheini sy'n profi trais neu sydd mewn perygl o brofi trais. Bydd yn ein cefnogi i wneud gwaith ymchwil ar atal trais, a fydd yn amhrisiadwy i bartneriaid ledled Cymru a thu hwnt. Bydd yn ein galluogi i ddatblygu ein systemau rhannu a dadansoddi data ymhellach, sy'n hanfodol i gefnogi dull amlasiantaethol o atal trais.

Ein cenhadaeth yw atal trais yng Nghymru, ond gwyddom na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Dros y tair blynedd nesaf, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i rymuso pobl ifanc i gyd-lunio atebion i roi terfyn ar drais ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, lleihau anghydraddoldeb drwy fynd i'r afael â'r achosion sydd wrth wraidd trais, meithrin ein partneriaethau ar gyfer atal a pharhau i werthuso ein heffaith i gael dealltwriaeth well o beth sy'n gweithio i atal trais. Bydd y blaenoriaethau hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni newid cynaliadwy a gefnogir gan atebion wedi'u cyd-lunio ar gyfer pobl yng Nghymru. Yn y pen draw, bydd yn sicrhau y gallwn gyflawni ein cenhadaeth o Gymru ddi-drais.

Jon Drake, Cyfarwyddwr Uned Atal Trais Cymru