Jump to content

Hyrwyddo Atal Trais Difrifol

Mae Uned Atal Trais Cymru wedi ymuno â Heddlu De Cymru i gynnig Rhaglen Atal Trais Difrifol ddiddorol i Swyddogion ym mhob rhan o'r Heddlu.

Datblygwyd Rhaglen Hyrwyddwyr Atal Trais Difrifol gan Uned Atal Trais Cymru i ennyn diddordeb Swyddogion ar bob lefel yn yr Heddlu yn ei chenhadaeth i atal trais difrifol drwy ddefnyddio dull iechyd y cyhoedd.

Bydd y Rhaglen yn darparu'r wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar Hyrwyddwyr i hyrwyddo dull iechyd y cyhoedd ar draws y sector plismona, yn ogystal â chynnig fforwm i Swyddogion rannu arferion gorau a phryderon er mwyn llywio gwaith yr Uned.

Bydd amrywiaeth eang yr Uned o aelodau yn cynnig hwb o arbenigedd i'r Hyrwyddwyr, gan ddarparu gwybodaeth a sgiliau i helpu Swyddogion i hyrwyddo mentrau atal trais yn eu maes.


“Gan adeiladu ar hanes cryf o weithio mewn partneriaeth rhwng yr heddlu ac iechyd y cyhoedd, bydd y rhaglen hon yn mynd â chydweithio gam ymhellach, gan alluogi Swyddogion o bob lefel yn yr Heddlu i lywio ymatebion i drais a sicrhau bod dulliau atal trais yn gweithio i Heddlu De Cymru ac i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu."

“Mae Swyddogion yr Heddlu mewn sefyllfa unigryw i nodi'r rhai sy'n cyflawni ac yn dioddef troseddau treisgar ac ymateb iddynt, ac mae'r cyfle ganddynt i ymyrryd yn gynnar ac atal trais, ac mae gennym uchelgais i roi'r rhaglen hon ar waith ym mhob heddlu yng Nghymru yn y dyfodol agos.”

Y Ditectif Brif Arolygydd Mat Lewis, Arweinydd ar gyfer yr Heddlu yn Uned Atal Trais Cymru

Mae Swyddogion wedi cael eu recriwtio i gymryd rhan mewn rhaglen o bob lefel yn yr Heddlu i alluogi'r Uned i ymgysylltu'n fwy uniongyrchol â phlismona gweithredol, a chydweithio â swyddogion a staff yr heddlu ar y rheng flaen er mwyn llywio ymatebion i drais.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y Rhaglen neu unrhyw agwedd ar waith yr Uned, cysylltwch â ni.