Jump to content

Hyrwyddo Camau i Atal Trais

Mae'r llun yn dangos Lara Snowdon, Arweinydd Iechyd y Cyhoedd, yn cyflwyno i Hyrwyddwyr Atal Trais Heddlu De Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain

Mae Uned Atal Trais Cymru fwy na 60 o Swyddogion o Heddlu De Cymru a'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i'r digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf i Hyrwyddwyr Atal Trais yn Abertawe.

Sefydlwyd y Rhwydwaith yn 2020 i gefnogi dull o atal trais sy'n seiliedig ar iechyd y cyhoedd yng ngwasanaeth yr heddlu. Ei nod yw sicrhau bod gan Hyrwyddwyr y wybodaeth a'r adnoddau i hyrwyddo dull sy'n seiliedig ar iechyd y cyhoedd ym mhob agwedd ar blismona, gan greu dull system gyfan o atal trais. Mae'r rhwydwaith hefyd yn cynnig fforwm i swyddogion rannu arferion gorau a phryderon er mwyn llywio gwaith yr Uned Atal Trais.

Mae Swyddogion yr Heddlu a PCSOs mewn sefyllfa unigryw i adnabod ac ymateb i'r rhai sy'n cyflawni ac yn dioddef troseddau treisgar, ac mae ganddynt gyfle i ymyrryd yn gynnar er mwyn atal trais.

Drwy adeiladu ar hanes cryf o waith partneriaeth rhwng yr heddlu ac asiantaethau eraill, mae'r Rhwydwaith hwn yn mynd â chydweithio gam ymhellach. Mae'n sicrhau ymgysylltu strwythuredig rhwng Swyddogion, cydweithwyr ym maes iechyd y cyhoedd a'n haelodaeth gyswllt ehangach, yn cynnwys y rheini sydd â phrofiad byw o drais, er mwyn llywio ymatebion i drais a sicrhau bod dulliau o atal trais yn gweithio i'r cymunedau a wasanaethir gennym.

Ditectif Brif Arolygydd Jason Herbert, Arweinydd yr Heddlu ar gyfer Uned Atal Trais Cymru

Roedd yn wych cael profiad o ddigwyddiad lle gallem gwrdd unwaith eto a rhannu syniadau â swyddogion a staff eraill o bob rhan o'r heddlu a dysgu gan siaradwyr allanol ysbrydoledig a ddewiswyd yn ddoeth. Drwy weld a chlywed am y gwaith y mae cydweithwyr Iechyd yn ei wneud ynghyd â'n gwaith ni, cawn gipolwg gwerthfawr ar y modd y mae'r holl strategaeth a'r ymdrechion yn dod ynghyd. Erbyn hyn, rwy'n dilyn rhai o'r siaradwyr ar Twitter ac yn dysgu mwy o ganlyniad i hynny ac yn trefnu mwy o gyfarfodydd wyneb yn wyneb â'm cydweithwyr mewn Partneriaethau Diogelwch Cymunedol ledled yr heddlu.

Roedd yn amlwg i mi o ymgysylltiad a chwestiynau'r rhai a oedd yn bresennol bod y digwyddiad yn llwyddiant mawr ac y byddai wedi ysgogi sawl un i feddwl a sgwrsio am beth arall y gallwn ei gyfrannu fel Hyrwyddwyr Atal Trais.

Roedd straeon bywyd y tri gwestai oedd wedi cael profiadau byw o gyffuriau a thrais wedi gwneud i ni feddwl ac roeddent yn berthnasol iawn i'r diwrnod.

Arolygydd Jeff Lewis, Heddlu De Cymru

Os hoffech ddysgu mwy am y Rhwydwaith Hyrwyddwyr neu os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu model tebyg yn eich sefydliad, cysylltwch â ni!

E-bost: bryony.parry@wales.nhs.uk