Jump to content

Mae'r Fframwaith newydd yn paratoi'r ffordd i Gymru heb drais

Cymru Heb Drais: mae fframwaith ar y cyd ar gyfer atal trais ymysg plant a phobl ifanc, yn darparu canllaw sydd wedi'i lywio gan dystiolaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol i atal trais ymysg plant a phobl ifanc.

Lawrlwythwch y Llawlyfr

O dan arweiniad Peer Action Collective Cymru, sef rhwydwaith arloesol o bobl ifanc wedi'i ariannu gan y Gronfa Gwaddol Ieuenctid sy'n gweithio i atal trais, a'r Uned Atal Trais Cymru, mae Fframwaith Cymru Heb Drais wedi'i lywio gan safbwyntiau a dyheadau dros 1,000 o blant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru.

Ffurfiodd Peer Action Collective Cymru ac Uned Atal Trais Cymru bartneriaeth ar ddechrau 2022 i archwilio'r rolau y gall plant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ymgymryd â nhw wrth atal trais. Trwy weithdai, digwyddiadau, ac arolygon ar-lein y Fframwaith yw penllanw'r bartneriaeth hyd yma, sy'n darparu canllaw i atal trais sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn adlewyrchu profiadau'r rheiny sydd wedi'u heffeithio ganddo.

Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth ag Uned Atal Trais Cymru i ymchwilio i'r rolau y gall plant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ymgymryd â nhw er mwyn rhoi diwedd i drais ledled y wlad. Mae'r berthynas hon wedi bod yn ddefnyddiol, yn gadarnhaol ac yn rymusol, gan roi'r cyfle i bobl ifanc o fewn Peer Action Collective greu mudiad a fydd yn gadael gwaddol i genedlaethau'r dyfodol.

"Er mwyn datblygu Fframwaith Cymru Heb Drais, gwnaethom siarad â channoedd o blant a phobl ifanc ledled Cymru am eu profiadau o drais, a'u syniadau ar sut i roi diwedd arno. Clywsom am wahaniaethu a wynebir gan rai o wahanol gyfeiriadau rhywiol, ethnigrwydd, rhyw, cefndiroedd economaidd-gymdeithasol, strwythurau teuluol, ac ymddangosiadau. Clywsom hefyd am y ffordd y gall y rhai sy'n ymarfer gwahanol grefyddau neu sy'n niwroamrywiol gael eu hamlygu a wynebu bwlio a thrais. Ar y cyfan, clywsom fod plant a phobl ifanc eisiau teimlo'n ddiogel i fod yn nhw eu hunain.

Nod y Fframwaith hwn yw bod yn ganllaw i atal trais sy'n seiliedig ar brofiadau'r plant a'r bobl ifanc yr effeithir arnynt. Wrth i chi ddarllen drwyddo, rwy'n gobeithio y byddwch yn gweld, fel rydym ni wedi gweld drwy lawer o gyfweliadau, digwyddiadau a sgyrsiau, bod gobaith ar gyfer Cymru heb drais yn y dyfodol ac uchelgais gan blant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd i wneud i hyn ddigwydd.”

Stephanie McArdle, Cydlynydd Peer Action Collective Cymru

“Er y gall tystiolaeth o waith ymchwil a gwerthusiadau o ymyriadau presennol ein helpu i ddeall yr hyn sy'n gweithio i atal trais, rydym yn gwybod ei bod yn hanfodol y caiff gweithgarwch atal trais ei ddatblygu gyda'r rheiny sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio ganddo.

Dyma pam y gwnaethom geisio sicrhau bod Fframwaith Cymru Heb Drais nid yn unig yn cael ei lywio gan dystiolaeth ond hefyd wedi'i gydgynhyrchu â phlant, pobl ifanc, gweithwyr proffesiynol a chymunedau, i roi gwell dealltwriaeth i ni o weithgaredd atal trais a fydd yn gweithio i Gymru.

Mae'r Fframwaith wedi cael ei lunio i gefnogi ardaloedd lleol yng Nghymru i ddatblygu eu strategaethau ymateb yn unol â'r Ddyletswydd Trais Difrifol newydd, ond cafodd ei greu i gefnogi pawb sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy'n awyddus i archwilio'r dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio i atal trais, a chael arweiniad ar sut i roi hyn ar waith. Mae'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'i gyd-gynhyrchu, gan dynnu ar gyd-destun lleol i ddarparu tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio i atal trais, a rhoi cipolwg ar ymarfer gwerthuso effeithiol sy'n hanfodol i roi diwedd ar drais."

Dan Jones, Pennaeth Uned Atal Trais Cymru

Cliciwch yma i fynd i'r wefan Cymru Heb Drais a lawrlwythwch y Fframwaith.

Cliciwch yma i fynd i'r wefan Cymru Heb Drais a lawrlwythwch y Fframwaith.

Nodyn i’r golygyddion:

Ynglŷn â Peer Action Collective Cymru:
Mae Peer Action Collective yn brosiect ymchwil cyffrous sy'n ymgysylltu â phobl ifanc ac yn eu hysbrydoli a'u cymell i gymryd rhan mewn trafodaethau am gymdeithas a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt i wneud y byd yn lle gwell. Mae gan y tîm staff rhwng 16-25 oed.

Mae gan bob aelod o'r tîm wahanol brofiadau o fewn y materion rydym ni'n edrych arnynt ac o ganlyniad mae'n helpu i addysgu aelodau eraill o'r tîm.

Rydym yn edrych am fwy o allfeydd creadigol i bobl ifanc eu defnyddio o fewn ein prif brosiect ar hyn o bryd. Ein gobaith yw lleihau'r cyfraddau troseddu ledled Cymru drwy weithdai, strategaethau cyfweld a thrwy gymharu pob ardal yng Nghymru a dod o hyd i atebion ar gyfer pob rhanbarth.

Ynglŷn â'r Gronfa Gwaddol Ieuenctid a Rhaglen Peer Action Collective:
Cafodd y Gronfa Gwaddol Ieuenctid ei sefydlu ym mis Mawrth 2019 gan yr elusen plant Impetus, â gwaddol o £200m a mandad 10 mlynedd gan y Swyddfa Gartref.

Elusen yw'r Gronfa Gwaddol Ieuenctid sydd â nod pwysig o atal plant a phobl ifanc rhag cymryd rhan mewn trais, drwy geisio darganfod beth sy’n gweithio a ffurfio mudiad i roi’r wybodaeth hon ar waith.

Mae'r Gronfa Gwaddol Ieuenctid yn gwybod y bydd yn rhaid iddynt wneud nwy nag ariannu a gwerthuso rhaglenni addawol er mwyn gwneud gwahaniaeth parhaol. Rhaid iddynt wneud newid - newid polisi ac arferion - er mwyn cefnogi plant yn well a lleihau trais.

Rhwydwaith arloesol o bobl ifanc yw Peer Action Collective sy'n cynllunio ac yn cynnal ymchwil i brofiadau pobl ifanc o drais. Wedyn, cânt eu cefnogi i roi'r hyn maent wedi ei ddysgu ar waith. O ymgyrchu i wella gwasanaethau iechyd meddwl lleol, sefydlu canolfan ieuenctid neu helpu pobl ifanc i gael gwaith – bydd Peer Action Collective yn creu cyfleoedd i bobl ifanc wneud eu cymuned yn fwy diogel a theg.

Lawrlwythwch y Llawlyfr