Jump to content

POSTER NEWYDD: Cefnogi Partneriaethau er mwyn Atal

Yng Nghynhadledd Ymchwil a Gwerthuso'r Uned Lleihau Trais, cyflwynodd Dr Alex Walker, Swyddog Canlyniadau Atal Trais, boster ar sut mae ymyriadau a dulliau atal trais ledled Caerdydd ac Abertawe yn gweithredu i nodi a chefnogi unigolion.

Cliciwch yma i edrych ar y poster (PDF).

The poster highlights the methods, findings and recommendations from a recent whole-system evaluation commissioned by the Wales Violence Prevention Unit (VPU). The VPU commissions a range of violence prevention activity in South Wales, including two violence prevention coordinators for the Safeguarding Adolescents from Exploitation (SAFE) Partnership in Cardiff and the Contextual, Missing, Exploited and Trafficked (CMET)

Mae'r poster yn tynnu sylw at ddulliau, canfyddiadau ac argymhellion yn dilyn gwerthusiad systemau cyfan wedi'i gomisiynu gan Uned Atal Trais Cymru. Mae'r Uned Atal Trais yn comisiynu amrywiaeth o weithgareddau atal trais yn Ne Cymru, gan gynnwys dau gydlynydd atal trais ar gyfer Partneriaeth Diogelu Pobl Ifanc rhag Camfanteisio (SAFE) yng Nghaerdydd a'r Panel Cyd-destunol, Coll, Wedi'u Hecsbloetio a'u Masnachu (CMET) yn Abertawe. Mae modelau gweithredu SAFE a CMET yn sicrhau y caiff anghenion plant a phobl ifanc eu diwallu drwy gyfuno gwasanaethau statudol gyda chymorth cymunedol, i ddarparu dull system gyfan er mwyn atal trais.

Yn ddiweddar, mae'r Uned Atal Trais wedi cyhoeddi gwerthusiad o fodelau SAFE a CMET, a gafodd ei gwblhau gan Brifysgol John Moores Lerpwl. Ar y cyfan, nododd y gwerthusiadau bod y plant a'r bobl ifanc a oedd yn ymwneud â'r ymyriadau mewn perthynas â SAFE a CMET yn meddu ar wybodaeth ac ymwybyddiaeth well o'r risgiau a bod eu hiechyd a'u llesiant yn well. Roeddent hefyd yn gallu gwneud penderfyniadau hyddysg yn well yn ogystal â datblygu strategaethau ymdopi amgen. Dengys canfyddiadau'r gwerthusiad hefyd fod model comisiynu a chyflawni yr Uned Atal Trais yn cyfrannu at nodau cyffredinol lleihau trais a niwed ymhlith plant a phobl ifanc. Nodwyd bod Panel CMET a Phartneriaeth SAFE hefyd yn fodelau pwysig ar gyfer dod â phartneriaid ynghyd mewn ymateb amlasiantaethol i atal trais.

Mae argymhellion y gwerthusiad yn cynnwys parhau i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd y prosesau wrth wneud penderfyniadau, a sicrhau buddsoddiad a chyllid hirdymor i greu sefydlogrwydd mewn gwasanaethau a chysondeb gofal.

Cliciwch yma i edrych ar y poster (PDF).

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiadau llawn ar wefan yr Uned Atal Trais.