Mae Uned Atal Trais Cymru wedi cyhoeddi gwerthusiad Cam Dau ymgyrch #DiogelDweud: Atal Achosion o Aflonyddu Rhywiol yn yr Economi Liw Nos: Annog Dynion i Fod yn Wylwyr Gweithredol.
Mae #DiogelDweud yn ceisio atal achosion o aflonyddu rhywiol drwy annog ymatebion cymdeithasol gadarnhaol y rhai a fu'n bresennol yn erbyn aflonyddu rhywiol, neu'r arwyddion pwysig mewn lleoedd bywyd nos.
Cafodd Cam Dau #DiogelDweud ei ddarparu gan Uned Atal Trais Cymru, wedi'i ariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, fel rhan o Swyddfa Gartref y Gronfa Safety of Women at Night.
Mae'r gwerthusiad wedi defnyddio canfyddiadau o'r cyfryngau cymdeithasol a dadansoddiadau gwefannau, yn ogystal ag ymatebion i arolwg canfyddiadau'r cyhoedd ar ôl yr ymgyrch a gwblhawyd gan 231 o gyfranogwyr.
Gwnaeth y gwerthusiad ganfod bod Cam Dau #DiogelDweud wedi llwyddo o ran tynnu sylw at faterion aflonyddu rhywiol, fodd bynnag ni wnaeth y gwerthusiad godi ymwybyddiaeth o'r math hwn o drais mewn lleoliadau bywyd nos.
Roedd cyfraddau'r ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol yn sylweddol uwch yn ymgyrch Cam Dau o gymharu ag ymgyrch Cam Un, sy'n dangos bod mwy o bobl yn teimlo'n ddigon cryf am yr ymgyrch i ymgysylltu â hi neu eu bod am gael gwybod mwy. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o'r sylwadau a'r ymatebion a adawyd ar hysbysebion yr ymgyrch yn negyddol.
Canfu arolwg canfyddiadau'r cyhoedd ar ôl yr ymgyrch y teimlai'r cyfranogwyr fod yr ymgyrch wedi eu helpu i wybod sut i ymyrryd, ond na wnaeth yr ymgyrch eu helpu i fagu eu hyder i weithredu.
Mae'r ail werthusiad hwn o'n hymgyrch #DiogelDweud yn dangos, er ein bod wedi llwyddo i ddarparu yn erbyn rhai o'r argymhellion a amlygwyd yn y gwerthusiad cyntaf, mae gennym fwy o waith i'w wneud o hyd i ddeall sut y gallwn ymgysylltu â dynion o ran atal trais rhywiol yn y ffordd orau.
Roedd y cam hwn o'r ymgyrch wedi targedu dynion 18-35 oed, ac wedi'r brofi gyda nhw. Fodd bynnag, yn yr arolwg ar ôl yr ymgyrch, mynegodd mwy o ddynion nad oedd yr ymgyrch wedi'u helpu i adnabod achosion o aflonyddu rhywiol nac wedi magu eu hyder i weithredu.
“Mae'r adroddiad hwn wir yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwerthuso, ac mae'n cynnwys cyfres o awgrymiadau a fydd yn cefnogi Uned Atal Trais Cymru a'n partneriaid yn y gwaith o ddatblygu a darparu gweithgareddau a fydd yn helpu ac yn annog dynion a bechgyn i herio achosion o aflonyddu rhywiol a'r agweddau a'r credoau sy'n sail iddynt.
Dan Jones, Pennaeth Uned Atal Trais Cymru