Mae adroddiad newydd yn cynnig cipolwg anghyffredin ar y materion sy'n cael yr effaith fwyaf ar blant a phobl ifanc yng Nghymru, yn ogystal â'u blaenoriaethau er mwyn atal trais.
Mae Adroddiad Cymru Heb Drais: Safbwyntiau Plant a Phobl Ifanc yn myfyrio ar yr adborth a gafwyd gan blant a phobl ifanc yn ystod cyfnod datblygu Fframwaith Cymru Heb Drais, a gafodd ei lunio ar y cyd ag Uned Atal Trais Cymru a Peer Action Collective Cymru, a gyhoeddwyd fis Ebrill 2023. Mae cyfanswm o 470 o blant a phobl ifanc wedi cyfrannu at Fframwaith Cymru Heb Drais, drwy gwblhau ymgynghoriad ar-lein, mynychu digwyddiad neu gymryd rhan mewn gweithdy a arweiniwyd gan Peer Action Collective Cymru. Mae'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ddemograffig, yn ogystal ag ymatebion y plant a'r bobl ifanc am effaith hunaniaeth person ar drais, datrysiadau trais a pha mor dda y mae gweithwyr proffesiynol yn gwrando ar safbwyntiau'r plant a'r bobl ifanc pan fyddant yn gwneud penderfyniadau am atal trais. |
“Canllaw yw Fframwaith Cymru Heb Drais i atal trais sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'i lywio gan syniadau a dyheadau plant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.
“Rhaid i weithgarwch atal trais gael ei ddatblygu gyda'r rhai yr effeithir arnynt. Mae'r adroddiad yn dwyn ynghyd gyfraniadau gwerthfawr plant a phobl ifanc, ac mae'n rhoi cyfle i ni wrando, dysgu a gweithredu ar yr hyn mae plant a phobl ifanc yn ei ddweud wrthym.”
Dan Jones, Pennaeth Uned Atal Trais Cymru
“Er mwyn datblygu Fframwaith Cymru Heb Drais, gwnaethom siarad â channoedd o blant a phobl ifanc ledled Cymru am eu profiadau o drais, a'u syniadau ar sut i roi diwedd arno.
“Clywsom am wahaniaethu a wynebir gan rai o wahanol gyfeiriadau rhywiol, ethnigrwydd, rhyw, cefndiroedd economaidd-gymdeithasol, strwythurau teuluol, ac ymddangosiadau. Clywsom hefyd am y ffordd y gall y rhai sy'n ymarfer gwahanol grefyddau neu sy'n niwroamrywiol gael eu hamlygu a wynebu bwlio a thrais. Ar y cyfan, clywsom fod plant a phobl ifanc eisiau teimlo'n ddiogel i fod yn nhw eu hunain.
“Bydd yr adroddiad hwn yn helpu'r bobl sy'n gweithio i atal trais ddeall ble y dylid canolbwyntio gweithgarwch, ond dim ond dechrau'r drafodaeth yw hyn. Er mwyn dileu trais ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru, mae angen i ni sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed, a chaiff eu cefnogi i ddatblygu datrysiadau yngyd â gweithwyr proffesiynol.”
Stephanie McArdle, Cydlynydd Peer Action Collective Cymru